Caio Fernando Abreu
Gwedd
Caio Fernando Abreu | |
---|---|
Ganwyd | Caio Fernando Loureiro de Abreu ![]() 12 Medi 1948 ![]() Santiago ![]() |
Bu farw | 25 Chwefror 1996 ![]() o death from AIDS-related complications ![]() Porto Alegre ![]() |
Dinasyddiaeth | Brasil ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, dramodydd, nofelydd ![]() |
Gwobr/au | Prêmio Jabuti ![]() |
Nofelydd ac awdur straeon byrion Brasilaidd yn yr iaith Bortiwgaleg oedd Caio Fernando Abreu (12 Medi 1948 – 25 Chwefror 1996).
Ganed yn Santiago, Rio Grande do Sul. Bywyd y dinasoedd sydd yn gefndir i'w ffuglen, ac mae ei gymeriadau yn aml yn profi ymddieithrwch cymdeithasol neu seicolegol. Dyn hoyw oedd Abreu, ac mae nifer o'i straeon yn portreadu'r ymateb chwyrn sydd gan gymdeithas yn erbyn cyfunrywioldeb. Yn ei nofel Onde andará Dulce Veiga? (1990) mae'n ymdrin â chlefyd HIV/AIDS a'i effaith ar gymdeithas fodern. Datganodd Abreu yn 1995 ei fod yn dioddef o AIDS, a bu farw o'r afiechyd hwnnw ym Menino, Porto Alegre, Rio Grande do Sul, yn 47 oed.[1]
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]Nofelau
[golygu | golygu cod]- Morangos Mofados (São Paulo: Editora Brasiliense, 1982).
- Triângulo das Águas: Noturnos (Rio de Janeiro: Editora Nova Fronteira, 1983).
- Onde andará Dulce Veiga?: Um romance B (São Paulo: Companhia das Letras, 1990).
Casgliadau o straeon byrion
[golygu | golygu cod]- Inventário do Irremediável: Contos (Porto Alegre: Editora Movimento, 1970).
- Pedras de Calcutá: Contos (São Paulo: Editora Alfa-Omega, 1977).
Dramâu
[golygu | golygu cod]- Zona Contaminada
- O Homem e a Mancha
- Teatro compledo (Porto Alegre: Editora Sulina, 1997). Casgliad a olygwyd gan Luiz Arthur Nunes.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cristina Ferreira-Pinto, "Abreu, Caio Fernando" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 1.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- F. Arenas, "Writing After Paradise and Before a Possible Dream: Brazil’s Caio Fernando Abreu", Luso-Brazilian Review 36 (1999), tt. 13–21.
- —— "Small Epiphanies in the Night of the World: The Writing of Caio Fernando Abreu", yn Lusosex, golygwyd gan F. Arenas a S. C. Quinlan (Minneapolis: University of Minnesota Press, 2002), tt. 235–57.
- Jeanne Callegari, Caio Fernando Abreu: inventário de um escritor irremediável (São Paulo: Seoman, 2008).
Categorïau:
- Genedigaethau 1948
- Marwolaethau 1996
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o Frasil
- Dramodwyr Portiwgaleg o Frasil
- Llenorion LHDT
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o Frasil
- Llenorion straeon byrion Portiwgaleg o Frasil
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Frasil
- Nofelwyr Portiwgaleg o Frasil
- Pobl o Rio Grande do Sul
- Pobl fu farw o AIDS