Cainc yr Aradwr
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
---|
Cân werin draddodiadol yw Cainc yr Aradwr. Mae'r band gwerin Plethyn wedi recordio fersiwn o'r gân.
Geiriau
[golygu | golygu cod]Fe gwyd yr haul er machlud heno,
Fe gwyd y lloer yn ddisglair eto,
Cwyd blodau haf o’r ddaear dirion,
Ond byth!, O! byth ni chwyd fy nghalon.
Ho! da 'machgen i,
Ho! dere dere, O! dere dere Ho! Hai ho!
Fe gwyd yr haul, fe gwn y lleuad,
Fe gwyd y môr yn donnau irad,
Fe gwyd y gwynt yn uchel ddigon:
Ni chwyd yr hiraeth byth o 'nghalon.
Fe gwyd yr haul pan ddêl boreddydd,
Fe gwyd y tarth oddi ar y dolydd,
Fe gwyd y gwlith oddi ar y meillion:
Gwae fi, pa bryd y cwyd fy nghalon?