Caddo (iaith)
Gwedd
| Caddo | ||
|---|---|---|
| Hasí:nay | ||
| Crëwyd gan | – | |
| Sefyllfa a defnydd | Bron a diflannu | |
| Cyfanswm siaradwyr | > 24 | |
| Categori (pwrpas) | Americanaidd
| |
| Codau ieithoedd | ||
| ISO 639-1 | Dim | |
| ISO 639-2 | cad
| |
| ISO 639-3 | cad
| |
| Wylfa Ieithoedd | –
| |
Iaith pobl frodorol Gwlad Caddo, Oklahoma, Unol Daleithiau America yw'r iaith Caddo, sef yr olaf yn y teulu o ieithoedd Caddoaidd. Fe'i siaredir gan llai na 24 o bobl.[1] Mae ganddi sawl tafodiaith gan gynnwys: Kadohadacho, Hasinai, Hainai, Natchitoches, a Yatasi. Y tafodieithoedd a ddefnyddir heddiw yw Hasinai a Hainai.[2]
Mae'n aelod o'r teulu Caddoa Gogleddol, ac aelodau eraill yw: yr ieithoedd Pawnee-Kitsai (neu Keechi), (Arikara, Kitsai, Pawnee) a Wichita. Mae Kitsai, bellach, wedi marw a llond dwrn o siaradwyr sy'n medru siarad Pawnee, Arikara, a Wichita.[3]
