Cacen drom

Oddi ar Wicipedia
Cacen drom
Mathteisen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cernyw Cernyw
Yn cynnwysblawd Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Prif gynhwysion y gacen drom neu gacen Hevva (Cernyweg: Hevva, trwm) yw blawd, lard, menyn, llaeth, siwgr a rhesins wedi'u tyfu yng Nghernyw.

Mae ei enw'n deillio o'r diwydiant sardîns yng Nghernyw cyn yr 20g pan helpodd huer (sef person mewn man gwylio addas, er enghraifft ar ben clogwyn) i ddod o hyd i heigiau o bysgod. Byddai'r huer yn gweiddi 'Hevva!, Hevva!' i dynnu sylw'r pysgotwyr at leoliad y sardîns.[1]

Mae traddodiad Cernywaidd yn nodi bod cacen Hevva wedi ei phobi gan yr huers ar ôl dychwelyd i'w cartrefi, gyda'r gacen yn barod erbyn i'r criwiau ddychwelyd i'r lan. Fel arall, fe'i gelwir yn gacen drom gan nad yw'n "ysgafn", heb ei chodi yn yr un modd â chacen burum neu fynsen hadau.

Mae'r cacennau tua 1/2 modfedd o drwch, gyda phatrwm cris-croes wedi'i greu ar y top, yn cynrychioli'r rhwydi pysgota.[2][3][4] Ar wahân i'r patrwm rhwydi yma, mae'r deisen yn debyg iawn i'r deisen gri Gymreig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Robert Morton Nance (1963). Pool, P.A.S. (gol.). A Glossary of Cornish Sea Words. The Federation of Old Cornwall Societies. t. 92.
  2. "Seven Traditional Foods of Cornwall - Cornish Cuisine Guide". Anglotopia.net. 2010-12-05. Cyrchwyd 2014-03-16.
  3. "Pin by UK Beach Days on Fishing History and Heritage UK". Pinterest. Cyrchwyd 2014-03-16.
  4. "'Feasts and Festivals': 8 May: Helston Flora Day". Feastsandfestivals.blogspot.com. 2010-04-08. Cyrchwyd 2014-03-16.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]