CPD Bro Goronwy
Enghraifft o'r canlynol | clwb pêl-droed |
---|
Mae CPD Bro Goronwy yn clwb pêl-droed o Foelfre, Ynys Môn.
Hanes
[golygu | golygu cod]Yn wreiddiol, sefydlwyd yr clwb hefo'r enw Benllech & District FC. Roeddent yn aelodau sefydlu Cynghrair Gwynedd a ffurfiwyd ar 23 Mehefin 1983. Y tymor canlynol, penderfynodd y clwb ddychwelyd i Gynghrair Ynys Môn a'i ail-enwi yn CPD Bro Goronwy. Ond gan fod y clwb wedi cadw'r un tîm ac oedd wedi bod yn chwarae yng Nghynghrair Gwynedd y tymor blaenorol cafodd nhw hwyl o flaen gôl gan sgorio 105 o goliau. Enillodd y gynghrair a chyrhaeddodd y rownd derfynol yn y cwpanau Dargie a Megan, ond colli fu'r hanes ar y ddau achlysur, 3-0 i Langoed a cholli i Lannerchymedd.
Yn 1988 chwaraeodd yr clwb ei gêm olaf. Cyrhaeddodd y rownd derfynol Cwpan Gwynedd, gan golli 0-3 yn erbyn C.P.D. Llanberis.
O dan arweinyddiaeth Lee Potter, ailsefydlodd Bro Goronwy fel tîm 'Cynghrair Sul' yn 2003-2004, ac wedyn ail-ymunodd â Chynghrair Môn yn 2006. Cawsant eu coroni yn bencampwyr Cynghrair Môn yn nhymor 2009-2010 ac wedyn yn bencampwyr Cynghrair Gwynedd yn 2010-2011. [1]
Y Sgwad
[golygu | golygu cod]Mae gan Fro Goronwy bedwar hyfforddwyr: Ben Jones, Arwel Hughes, Alan Gray a Martin Jones.[2]
Gôl-geidwad; Jonny Sweetser-Hawkes a Gareth Owen.
Amddiffynwyr;Aaron Heald, Stephen Hughes, Matty Roberts, Liam Thomas, Paul Williams, Gaz Jones, Rob Tiesteel (capten) a Richard Williams.
Chwaraewyr Canol Cae; Jamie Jones, Ross Mark, Cole Whittle, Connor Williams, Liam Griffiths, Sam Regan, Rui da Silva, Dan Fairhead, Connor Jones a Callum Thomas.
Ymosodwyr; Tom Wood, Andy Williams, Taylor Jones a Jac Thomas.
Y sgoriwr uchaf yw Jac Thomas, ac mae Taylor Jones wedi gwneud y nifer mwyaf o ymddangosiadau (yn gywir ar 30/01/19)[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Bro Goronwy. Hanes CPD Bro Goronwy. Bro Goronwy. Adalwyd ar 30 Ionawr 2019.
- ↑ (Saesneg) Bro Goronwy. Sgwad Bro Goronwy. Bro Goronwy. Adalwyd ar 30 Ionawr 2019.
- ↑ (Saesneg) Bro Goronwy. Ystadegau'r dim. Bro Goronwy. Adalwyd ar 30 Ionawr 2019.