Côr Cymru
| Enghraifft o: | cyfres deledu, cystadleuaeth gerddorol |
|---|---|
| Gwlad | Cymru |
| Dechreuwyd | 2003 |
| Genre | Teledu realiti |
| Dynodwyr | |
Cystadleuaeth deledu Gymraeg yw Côr Cymru sy'n chwilio am y côr gorau yng Nghymru, sy'n cael ei ddarlledu bob dwy flynedd ar S4C.
Yn y sioe gwelir corau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn rowndiau cynderfynol mewn pum categori gwahanol (corau merched, meibion, cymysg, ieuenctid (16-25 oed), a phlant). Mae enillwyr pob categori yn cystadlu ar gyfer y teitl “Côr Cymru” mewn rownd derfynol fyw.
Yng Ngorffennaf 2025 cyhoeddodd S4C fod y gystadleuaeth am ddod i ben ar ôl 20 mlynedd. Dywedodd prif weithredwr y cwmni cynhyrchu, Rondo, eu bod "yn falch eithriadol o Côr Cymru a'r hyn y mae wedi ei gyflawni" ond fod y penderfyniad yn un siomedig.[1]
Enillwyr
[golygu | golygu cod]Enillwyr y wobr hyd yma yw:
| Blwyddyn | Côr |
|---|---|
| 2003 | Ysgol Gerdd Ceredigion |
| 2005 | Serendipity |
| 2007 | Cywair |
| 2009 | Ysgol Gerdd Ceredigion |
| 2011 | Cywair |
| 2013 | Côr Y Wiber |
| 2015 | Côr Heol y March |
| 2017 | Côr Merched Sir Gâr [2] |
| 2019 | Ysgol Gerdd Ceredigion |
| 2021 | gohiriwyd |
| 2022 | Côrdydd[3] |
| 2024 | Côr Ifor Bach[4] |
- Gwobr yr arweinydd gorau
- 2007 - Mari Pritchard: Côr Ieuenctid Môn
- 2009 - Sioned James: Côrdydd, Caerdydd
- 2011 - Islwyn Evans, Cywair
- 2013 - Aled Phillips, Côr Meibion Rhosllannerchrugog (dynion)
- 2015 - Janet Jones, Parti Llwchwr
- 2017 - Eilir Owen Griffiths, CF1
- 2019 - Mari Pritchard, Côr Ieuenctid Môn
- Gwobr dewis y gwylwyr
- 2011 - Cantata, Llanelli (merched)
- 2013 - Côr y Cym (ieuenctid)
- 2015 - Parti Llwchwr (merched)
- 2017 - Côr Ieuenctid Môn (ieuenctid)
- 2019 - Côr Sioe Môn
- Côr Cymru Cynradd (ar gyfer corau ysgolion cynradd)
- 2015 - Ysgol Iolo Morganwg
- 2017 - Ysgol Pen Barras
- 2019 - Ysgol Teilo Sant
Côr y Flwyddyn Eurovision
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd S4C ar 5 Ebrill 2017 y byddai enillydd Côr Cymru 2017 yn cynrychioli Cymru yng Nghôr y Flwyddyn Eurovision 2017.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "'Siomedig iawn' bod cystadleuaeth Côr Cymru yn dod i ben". BBC Cymru Fyw. 2025-07-07. Cyrchwyd 2025-07-07.
- ↑ Granger, Anthony (9 Ebrill 2017). "Côr Merched Sir Gâr to Eurovision Choir of the Year 2017". eurovoix.com. Eurovoix. Cyrchwyd 9 Ebrill 2017.
- ↑ "Côrdydd yw côr y dydd yn ffeinal Côr Cymru 2022 | Y Wasg | S4C". s4c.cymru. Cyrchwyd 2025-07-07.
- ↑ "Côr Ifor Bach yn ennill Côr Cymru 2024 | Y Wasg | S4C". s4c.cymru. Cyrchwyd 2025-07-07.
- ↑ Granger, Anthony (5 Ebrill 2017). "Wales: Selects for Eurovision Choir of the Year 2017 on April 9". eurovoix.com. Eurovoix. Cyrchwyd 5 Ebrill 2017.