Cévennes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa yn y Cévennes

Mynyddoedd yn rhan ddeheuol canolbarth Ffrainc yw'r Cévennes. Maent yn rhan o'r Massif Central, ac yn cynnwys rhannau o départements Gard, Lozère, Ardèche, a Haute-Loire.

Daw'r enw o'r Galeg Cebenna, a Ladineiddiwyd gan Iŵl Cesar i Cevenna. Y copa uchaf yw Mont Lozère (1702m), gyda Mont Aigoual (1567m) hefyd yn nodedig. Ceir tarddiad nifer o afonydd yma, gydag afon Loire ac afon Allier yn llifo tua Môr Iwerydd ac eraill i'r Môr Canoldir megis afon Ardèche ac afon Hérault. Crewyd Parc Cenedlaetthol y Cévennes yn 1970.

Mae'r ardal adnabyddus am y ganran uchel o Brotestaniaid neu Huguenotiaid.