Byddin Pobl Fietnam

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Byddin Gogledd Fietnam)
Byddin Pobl Fietnam
Enghraifft o'r canlynollluoedd arfog Edit this on Wikidata
Rhan oByddin Pobl Fietnam Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu22 Rhagfyr 1944 Edit this on Wikidata
Gweithwyr484,000 Edit this on Wikidata
PencadlysHanoi Edit this on Wikidata
GwladwriaethFietnam, Gogledd Fietnam Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Byddin Pobl Fietnam

Lluoedd arfog Fietnam yw Byddin Pobl Fietnam (Fietnameg: Quân Đội Nhân Dân Việt Nam). Mae'n cynnwys Lluoedd Tir Pobl Fietnam (gan gynnwys yr Ôl-luoedd Strategol a Lluoedd Amddiffyn y Goror), Llynges Pobl Fietnam (gan gynnwys Corfflu'r Môr-filwyr), Awyrlu Pobl Fietnam, ac Heddlu Morol Fietnam.

Yn ystod Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina, cyfeiriwyd at Fyddin Pobl Fietnam yn aml fel y Việt Minh. Yn ystod Rhyfel Fietnam, galwyd weithiau yn Fyddin Gogledd Fietnam er mwyn gwahaniaethu o luoedd y Viet Cong yn Ne Fietnam, er yr oedd y Viet Cong yn rhan o strwythur Byddin y Gogledd.