Bwystfil cynffonnog
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o fodau dychmygol |
---|---|
Math | fictional demon |
Rhan o | bijū and jinchūriki |
Bwystfil Cynffonnog (尾獣 - Japaneg) yw'r term a rhoddir ar gyfer y creadurion pwerus a pheryglus o fewn y gyfres manga ac anime Naruto.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Yn wreiddiol, pan oedd Doethwr y Chwe Llwybr dal i fyw, torodd y Juubi sef y bwystfil deg-gynffon mewn i naw bwystfil llai. Defnyddiodd dechneg o'r enw Izanagi, sydd yn rhoi'r bŵer i'r defnyddiwr troi breuddwydion yn wir.
Y Naw Bwystfil
[golygu | golygu cod]Ichibi
[golygu | golygu cod]Yr Ichibi yw'r bwystfil cynffonog cyntaf. Mae'r creadur yma yn edrych fel rhyw fath o frochlwynog llwydfelyn, gyda adrannau du ar draws ei gorff. Un cynffon sydd ganddo. Jinchuuriki yr Ichibi oedd Gaara o'r Tywod, ac fe gafodd y bwystfil yma ei echdynnu gan Akatsuki yn llwyddiannus.
Nibi
[golygu | golygu cod]Cath yw'r Nibi gyda dau gynffon. Roedd y bwystfil hon wedi'i selio tu fewn i Yugito Nii, ond cafodd ei echdynnu gan Akatsuki yn llwyddiannus.
Sanbi
[golygu | golygu cod]Crwban y môr yw'r Sanbi, a thair cynffon sydd ganddo. Yn yr anime, ceisiodd Konoha selio'r Sanbi ond ceisiodd Akatsuki cael gafael arno. Nid oedd angen echdynnu'r Sanbi, gan ei fod wedi'i echdynnu o'r Jinchuuriki, Yagura, yn barod am resymau anhysbus.
Yonbi
[golygu | golygu cod]Mwnci pedwar-cynffon yw'r Yonbi, arfer ei selio tu fewn i Roshi. Cafodd ei echdynnu gan Akatsuki yn llwyddiannus.
Gobi
[golygu | golygu cod]Ceffyl yw'r Gobi ac mae ganddo pump o gynffonnau. Han oedd Jinchuuriki y bwystfil hon, ond cafodd ei echdynnu gan Akatsuki yn llwyddiannus.
Rokubi
[golygu | golygu cod]Malwen yw'r Rokubi ac mae ganddo chwech o gynffon. Cafodd ei echdynnu o Utakata yn llwyddiannus gan Akatsuki.
Nanabi
[golygu | golygu cod]Chwilen saith-gynffon yw'r Nanabi a chafodd ei selio o fewn Fu. Cafodd ei echdynnu yn llwyddiannus gan Akatsuki.
Hachibi
[golygu | golygu cod]Bustach yw'r Hachibi gyda wyth o gynffon sydd yn darlunio coesau octopws. Killer Bee yw Jinchuuriki y bwystfil hon, ac roedd Akatsuki yn aflwyddiannus yn cael gafael arno er mwyn ei echdynnu.
Kyuubi
[golygu | golygu cod]Y Kyuubi yw'r bwystfil cynffonnog mwyaf adnabyddus trwy'r manga ac anime; cadno yw'r Kyuubi, a Naruto yw ei Jinchuuriki. Er bod Akatsuki wedi ceision cael gafael ar Naruto er mwyn echdynnu'r Kyuubi, nid oes unrhyw aelod wedi llwyddo.
Jubi
[golygu | golygu cod]Y bwystfil cynffonnog gwreiddiol yw'r Jubi. Cafodd ei rannu mewn i naw bwystfil cynffonnog.