Bwystfil Gévaudan
Enghraifft o'r canlynol | ffigwr chwedlonol |
---|---|
Yn cynnwys | Q113550931 |
Lleoliad yr archif | Departmental archives of Hérault |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bwystfil Gévaudan (Ffrangeg: La bête du Gévaudan) yw'r enw a roddir i nifer o anifeiliad mawr tebyg i fleddiaid a fu'n ymosod ar drigolion talaith hanesyddol Gévaudan yn ne Ffrainc (yn awr département Lozère), rhwng 1764 a 1767.
Disgrifid y bwystfilod fel anifeiliaid mawr, gyda dannedd anferth a blew o liw coch. Yn ôl de Beaufort (1987), bu tua 210 o ymosodiadau, gyda 113 o bobl yn cael eu lladd. Gwnaed ymdrech fawr i hela'r bwystfilod, a daeth yr ymosodiadau i ben wedi i Jean Chastel saethu un yn y Sogne d'Auvers ar 19 Mehefin 1767.
Mae gwahanol syniadau am beth yn union oedd y bwystfilod. Cred rhai mai bleiddiaid arferol oeddynt, a bod elfen o or-ddweud yn yr hanesion. Cred eraill eu bod yn fleiddiaid wedi eu croesi a chŵn, sy'n medru rhoi anifeiliaid sy'n fwy na'r un o'r rheini, a heb ofn bodau dynol.