Bwyd môr
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Bwyd y môr)
| Enghraifft o: | coginio, math o fwyd neu saig |
|---|---|
| Math | bwyd, cynhwysyn bwyd, aquatic product |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/06nwz |
| Quora | Seafood |

Cyfeiria bwyd môr at unrhyw fath o fywyd môr a ystyrir yn fwyd gan fodau dynol. Mae hyn yn cynnwys pysgod a physgod cregyn yn bennaf. Mae pysgod cregyn yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau o folysgiaid, cramenogion ac echinodermau. Yn hanesyddol, mae mamaliaid megus morfilod a dolffiniaid wedi'u bwyta am fwyd, er bod hyn i digwydd yn llawer llai aml yn yr oes fodern. Mae planhigion môr bwytadwy, megis rhai gwymonau a micro-algâu, yn cael eu bwyta ledled y byd, yn enwedig yn Asia.