Bwa Cymreig

Oddi ar Wicipedia
Darlun o ddyn yn dal bwa Cymreig, 13eg ganrif.

Roedd y bwa Cymreig neu'r bwa hir Cymreig yn arf canoloesol a ddefnyddwyd gan filwyr Cymreig. Dogfennwyd y bwa gan Gerallt Gymro tua 1188, wrth sôn am filwyr Cymreig Gwent: "Nid ydynt wedi'u gwneud o gorn, ynn nac yw, ond o lwyfen.[1]

Dywedodd Gerallt fod bwâu Gwent yn "anystwyth a chryf, nid yn unig i saethu taflegrau o bellter, ond hefyd i gynnal ergydion trwm yn agos."[2]

Rhoddodd enghreifftiau o berfformiad y bwâu hyn (cyfieithiad):

Yn y frwydr yn eryn y Cymry, fe saethwyd un o'r milwyr gan saeth a saethwyd ato gan Gymro. Fe aeth trwy ei goes, yn uchel, lle roedd wedi'i amddiffyn ar ochr mewnol ac allanol yfoes gan ei chausses haearn, ac yna trwy sgert ei tiwnig lledr; nesaf fe aeth trwy ran o'r cyfrwy a elwir yn alfa neu sedd; ac i orffen fe aeth i fewn i'w geffyl gan yrru mor ddwfn nes y laddodd yr anifail.[3][4]

Mae'n bosibl bod y bwa Cymreig pwerus wedi ysbrydoli creu'r bwa hir Seisnig.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Oakeshott, R. Ewart (1960). The Archaeology of Weapons. London: Lutterworth Press. t. 294.
  2. Gerald of Wales. (c.1188). The Journey Through Wales and The Description of Wales. Translated by: Lewis Thorpe. (1978 edition). London: Penguin Books Ltd.
  3. Itinerarium Cambriae, (1191)
  4. Weapon 030 – The Longbow, Osprey, p. 66
  5. "The Worshipful Company of Bowyers". www.bowyers.com. Cyrchwyd 2022-09-22.