Bussang
| Math | cymuned, cyrchfan sgïo |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,261 |
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Ballons des Vosges Regional Natural Park |
| Arwynebedd | 27.63 km² |
| Uwch y môr | 568 metr, 1,221 metr, 828 metr |
| Gerllaw | Afon Moselle |
| Yn ffinio gyda | Le Ménil, Saint-Maurice-sur-Moselle, Ventron, Fellering, Urbès, Fresse-sur-Moselle |
| Cyfesurynnau | 47.8856°N 6.8536°E |
| Cod post | 88540 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Bussang |
![]() | |
Mae Bussang yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Grand Est, Ffrainc. Mae'n un o'r 189 o gymunedau sydd ym Mharc Naturiol Rhanbarthol Ballons des Vosges.[1] Saif ar lan Afon Moselle. Amgylchir y gymuned gan nifer o goedwigoedd.
Mae’r gymuned yn nodedig am ei ffynhonnau o ddyfroedd mwynol ac am ei lethrau sgïo.
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Safleoedd a henebion
[golygu | golygu cod]Dyfroedd mwynol
[golygu | golygu cod]Mae Bussang wedi bod yn enwog am ei ffynhonnau o ddyfroedd mwynol ers y 17g pan ddechreuodd dugiaid Lorraine ymweld â nhw. Trodd yn dref sba poblogaidd yn 19g. Mae yna 4 ffynnon yn y gymuned: y Salmade mawr y Salmade bach, les Demoiselles a’r source Marie. Mae’r dŵr yn uchel ei gynnwys o haearn a gan hynny yn cael ei ystyried yn llesol i’r sawl sy’n dioddef o anemia.
Wedi dioddef difrod yn yr Ail Ryfel Byd dechreuodd llif tri o’r ffynhonnau arafu a phenderfynwyd eu cau ym 1958 gan fod y llif isel wedi achosi halogiad bacteriol, dim ond y source Marie sydd wedi goroesi. Mae gan awdurdodau’r gymuned cynlluniau i ail adeiladu'r diwydiant dyfroedd mwynol trwy dyllu am ffynhonnell newydd ar fynydd Charat.
- Source Marie
- Tap y source Marie
- Hysbyseb o 1909
Ffynhonnell y Moselle
[golygu | golygu cod]Mae’r Moselle yn afon 560 km o hyd sy’n llifo trwy Ffrainc, Lwcsembwrg a’r Almaen.
Honnir bod ffynnon a leolir 731 metr uwchben lefel y môr ger Bussang yw ffynhonnell yr afon. Mewn gwirionedd mae’r afon yn cael ei ffurfio trwy undeb nifer o nentydd ar lethrau'r Grand Drumont, rhai ohonynt dros 1,000 metr o’r ffynhonnell swyddogol.
- Ffynhonnell y Moselle
- Yr afon Moselle ger Cochem, yr Almaen
Theatr y Bobl
[golygu | golygu cod]Crëwyd Theatr y Bobl gan Maurice Pottecher ym 1895. Wedi ei hadeiladu o bren, mae gan y theatr nodwedd neilltuol, sef bod modd agor wal cefn y llwyfan, gan gynnig golygfa o’r mynyddoedd fel cefndir naturiol i berfformiadau. Cofrestrwyd y theatr fel heneb o bwys hanesyddol ar 2 Awst 1976[2].
- Maurice Pottecher, sylfaenydd Theatr y bobl
- Tu mewn i'r theatr
- Cefn y llwyfan ar agor
Memorial de Steingraben
[golygu | golygu cod]Carreg coffa er cof am y sawl a saethwyd yn Vosages am wrthsefyll yn erbyn y Natsïaid ym mis Medi a Hydref 1944. Mae ger y ffordd sy'n disgyn o'r col de Bussang i Urbes.
Sgïo
[golygu | golygu cod]Mae gan Bussang
- 8 llethr sgïo alpaidd, 42 canon eira a bryn neidio sgïo yn gyda 4 lifft llusgo
- 3 llwybr sgïo alpaidd
- Llwybr sgïo draws wlad ger Larcenaire
- Bryn sgïo o 50m yn La Bouloie
- Llethr tobogan
