Broch Mousa

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Broch Mousa
Mousa broch.jpg
MathBroch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirShetland Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau59.99528°N 1.182061°W Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Broch ar ynys Mousa yn ynysoedd Shetland yw Broch Mousa. Mae'n nodedig fel yr esiampl mwyaf cyflawn o froch sydd wedi goroesi.

Saif y broch ger y traeth ar Mousa, ynys fechan sydd bellach heb boblogaeth. Mae'n 13 medr o uchder, gyda grisiau tu mewn yn arwain i gerddedfa ar ben y broch. Musa yw'r unig froch lle mae'r rhan uchaf wedi ei gadw.

Credir i'r broch gael ei adeiladu tua 100 CC. Mae'r muriau o drwch anarferol, ac mae nifer sylweddol o'r Pedryn Drycin yn awr yn nythu tu mewn iddynt.