Neidio i'r cynnwys

Britain's Got Talent

Oddi ar Wicipedia
Britain's Got Talent

Teitl sgreen
Britain's Got Talent
Crëwyd gan Simon Cowell & Chwmni Teledu Syco
Cyflwynwyd gan Anthony McPartlin
Declan Donnelly
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 5
Nifer penodau 54
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 60-90 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol ITV
Fformat llun 16:9
Darllediad gwreiddiol 9 Mehefin 2007 – presennol
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Mae Britain's Got Talent yn sioe dalentau yn y Deyrnas Unedig a ddarlledir ar ITV. Mae'r sioe yn rhan o'r gyfres "Got Talent" a chaiff ei chyflwyno gan Ant & Dec. Nod y rhaglen yw dod o hyd i act dalentau gorau'r Deyrnas Unedig, boed yn gantorion, dawsnwyr, digrifwyr a thalentau eraill. Nid oes cyfyngiad oed ar y cystadleuwyr. Derbyniodd enillwyr y ddwy gyfres gyntaf £100,000 a'r cyfle i berfformio yn y Perfformiad Amrywiol Brenhinol gerbron y Teulu Brenhinol.

Darlledwyd y gyfres gyntaf o'r rhaglen ar 9 Mehefin 2007, a chafodd ei darlledu'n ddyddiol tan y rownd derfynol byw ar 17 Mehefin, pan enillodd Paul Potts o Bort Talbot y gystadleuaeth. Dechreuodd yr ail gyfres ar 12 Ebrill 2008, gyda'r rownd derfynol yn cael ei darlledu ar 31 Mai, 2008. George Sampson oedd enillydd yr ail gyfres. Dechreuodd y drydedd gyfres ar 11 Ebrill 2009 ar enillwyr oedd Diversity.

Dolenni Allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato