Bragdy Van Honsebrouck
Enghraifft o'r canlynol | bragdy |
---|---|
Rhanbarth | Ingelmunster |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bragdy yn Ingelmunster, Gwlad Belg yw Van Honsebrouck.[1] Fe'i sefydlwyd ym 1865 fel Bragdy Sint-Jozef, ac fe'i hailenwyd yn Fragdy Van Honsebrouck ym 1953.[2] Mae'n un o ddau fragdy y tu allan i Pajottenland i gynhyrchu cwrw lambig (wedi'i eplesu gan ddefnyddio burum gwyllt o'r ardal Cwm Zenne). [ angen dyfynnu ]
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd lleoliad adeilad y bragdy, a phentref cyfan Ingelmunster, ei ddinistrio ym 1695 yn dilyn brwydro rhwng milwyr Saesneg, Ffrengig a Sbaeneg.[3] Mae'r adeilad presennol yn dyddio'n ôl i 1736, ac mae ganddo selerau sy'n dyddio'n ôl i'r Oesoedd Canol.[4]
Ym 1986 prynwyd y castell gan y teulu Van Honsebrouck. Mae'r teulu wedi bod yn bragu cwrw Ingelmunster er 1900.[4] Ar 17 Medi 2001 fe wnaeth tân dechrau yn y castell a ddinistriodd yr amgueddfa-bragdy yn llwyr.[5]
Mae'r bragdy yn eiddo i'r seithfed genhedlaeth o fragwyr Van Honsebrouck yn Ingelmunster, a nhw sydd hefyd yn gweithio yno.[1] Y Prif Swyddog Gweithredol presennol yw Xavier Van Honsebrouck, a gymerodd reolaeth yn 2009.[2]
Cynnyrch
[golygu | golygu cod]Mae Van Honsebrouck yn cynhyrchu sawl cwrw gwahanol, gan gynnwys:
- Kasteel Donker, cwrw tywyll (11% ABV)[6]
- Kasteel Rouge, cyfuniad o Kasteel Donker a gwirod ceirios (8% ABV)[7]
- Kasteel Tripel, tripel corff llawn (11% ABV)[8]
- Kasteel Blond, cwrw golau (7% ABV)[9]
- Lansiwyd Kasteel Hoppy, cwrw golau gyda blas hopys arno, yn 2013 (6.5% ABV)
- Cuvée du Chateau, sef Kasteel Donker sydd wedi heneiddio am ddeng mlynedd (11% ABV)[10]
- St Louis, llinell y cwrw lambig gyda ffrwythau
- Premiwm Kriek, cwrw coch melys sy'n defnyddio ceirios Oblacinska ac wedi heneiddio am 6 mis ar lambig (3.2% ABV)[11]
- Fond Tradition, gueuze traddodiadol a heb ei felysu
- Brigand, cwrw golau euraidd (9% ABV)[12]
- Bacchus, cwrw Hen Fflemeg Brown (4.5% ABV)[13]
- Bacchus Kriekenbier (5.8% ABV) Wedi'i wneud gyda 15% o geirios. Nid oes label ar y botel 37.5cl, ond yn hytrach caiff ei lapio mewn dalen o bapur sidan printiedig.[14]
- Passchendaele (5.2% ABV) Cwrw golau arbennig wedi'i fragu i gofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Van Honsebrouck". James Clay. Cyrchwyd 29 Ionawr 2013.[dolen farw] Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw "Van Honsebrouck" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ 2.0 2.1 "History". Brewery Van Honsebrouck. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-13. Cyrchwyd 29 Ionawr 2013. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw "History" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ "#181 – Kasteel Triple". The Belgian Beer Odyssey – 1 to 1000. Cyrchwyd 29 Ionawr 2013.
- ↑ 4.0 4.1 "Brouwerij Van Honsebrouck". Beer Planet. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-10. Cyrchwyd 29 Ionawr 2013. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw "BeerPlanet" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ "Brouwerij Van Honsebrouck". Pintley. Cyrchwyd 29 Ionawr 2013.
- ↑ "Kasteel Donker". Brewery Van Honsebrouck. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-13. Cyrchwyd 30 Ionawr 2013.
- ↑ "Kasteel Rouge". Van Honsebrouck. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-06. Cyrchwyd 29 Ionawr 2013.
- ↑ "Kasteel Tripel". Brewery Van Honsebrouck. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-06. Cyrchwyd 30 Ionawr 2013.
- ↑ "Kasteel Blond". Van Honsebrouck. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-15. Cyrchwyd 30 Ionawr 2013.
- ↑ "Cuvée du Château". Brewery Van Honsebrouck. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-05. Cyrchwyd 29 Ionawr 2013.
- ↑ "St Louis Premium Kriek". Van Honsebrouck. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-20. Cyrchwyd 29 Ionawr 2013.
- ↑ "Brigand". Van Honsebrouck. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-11. Cyrchwyd 29 Ionawr 2013.
- ↑ "Bacchus". Van Honsebrouck. Cyrchwyd 29 Ionawr 2013.
- ↑ Product packaging, purchased 2012