Brîff Dyddiol yr Arlywydd

Oddi ar Wicipedia
Rhan o Frîff Dyddiol yr Arlywydd, 6 Awst 2001. Mae'r brîff hwn yn sôn am y posibilrwydd o ymosodiadau terfysgol gan Osama bin Laden yn yr Unol Daleithiau.

Dogfen dra-chyfrinachol yw Brîff Dyddiol yr Arlywydd (Saesneg: President's Daily Brief) a roddir pob bore i Arlywydd yr Unol Daleithiau. Fe'i hysgrifennir dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cudd-wybodaeth Genedlaethol er mwyn darparu'r Arlywydd gyda chrynodeb o'r gudd-wybodaeth ddiweddaraf sydd gan gymuned gudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau. Mae'r ddogfen hon yn enghraifft o gynnyrch cudd-wybodaeth.

Eginyn erthygl sydd uchod am gudd-wybodaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.