Bodmin

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Bosvenegh)
Jump to navigation Jump to search
Bodmin
Bodmin General railway station 1.jpg
Math Tref, Plwyf sifil Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Grass Valley, Bad Bederkesa, Ar Releg-Kerhuon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Cernyw
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Cernyw Cernyw
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 50.466°N 4.718°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E04011404 Edit this on Wikidata
Cod OS SX071665 Edit this on Wikidata
Cod post PL31 Edit this on Wikidata

Tref a phlwyf sifil yng Nghernyw, De-orllewin Lloegr, yw Bodmin (Cernyweg: Bosvena).[1]

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 14,736.[2]

Yn hanesyddol, Bodmin oedd tref sirol Cernyw, nes i Lysoedd y Goron symud i Truro, canolfan weinyddol y sir heddiw. Ar gyrion y dref ceir Gwaun Bodmin. Mae Caerdydd 156.2 km i ffwrdd o Bodmin ac mae Llundain yn 344.4 km. Y ddinas agosaf ydy Truro sy'n 33.2 km i ffwrdd.

Credir fod Pedrog, sant cenedlaethol Cernyw, wedi sefydlu clas yma yn y 6g. Mae'r gair bod yn gytras â'r gair Cymraeg bod ac yn golygu 'preswylfod, trigfan'; mae'r ail elfen yn yr enw, menegh, yn cyfateb i mynach(od) yn Gymraeg: felly 'Trigfan y mynachod' yw ystyr yr enw.

Cychwynwyd tri wrthryfel Cernywaidd ym Modmin. Yn 1497, arweiniodd Michael An Gof a Thomas Flamank fyddin o Gernywiaid i Blackheath yn Llundain lle cawsant eu trechu gan fyddin y brenin. Yn Awst yn yr un flwyddn, 1497, ceisiodd Perkin Warbeck ddadorseddu Harri VII o Loegr. Yn 1549, cychwynwyd "Gwrthryfel y Llyfr Gweddi" yno gan Gernywiaid Catholig a wrthwynebai fwriad y brenin Protestant Edward VI o Loegr i orfodi llyfr gweddi newydd. Cyrhaeddasant Caerwysg yn Nyfnaint. Roedd galwad am gael cyfieithiad Cernyweg o'r llyfr gweddi hefyd. Lladdwyd tua 4,000 yn y gwrthryfel hwnnw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Maga Cornish Place Names; adalwyd 13 Awst 2017
  2. City Population; adalwyd 7 Mai 2019

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of Cornwall.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gernyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato