Bodmin
![]() | |
Math |
tref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
| |
Gefeilldref/i |
Grass Valley, Bad Bederkesa, Ar Releg-Kerhuon ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Cernyw (Sir seremonïol) |
Gwlad |
![]() ![]() |
Cyfesurynnau |
50.466°N 4.718°W ![]() |
Cod SYG |
E04011404 ![]() |
Cod OS |
SX071665 ![]() |
Cod post |
PL31 ![]() |
Tref a phlwyf sifil yng Nghernyw, De-orllewin Lloegr, yw Bodmin (Cernyweg: Bosvena).[1]
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 14,736.[2]
Yn hanesyddol, Bodmin oedd tref sirol Cernyw, nes i Lysoedd y Goron symud i Truro, canolfan weinyddol y sir heddiw. Ar gyrion y dref ceir Gwaun Bodmin. Mae Caerdydd 156.2 km i ffwrdd o Bodmin ac mae Llundain yn 344.4 km. Y ddinas agosaf ydy Truro sy'n 33.2 km i ffwrdd.
Credir fod Pedrog, sant cenedlaethol Cernyw, wedi sefydlu clas yma yn y 6g. Mae'r gair bod yn gytras â'r gair Cymraeg bod ac yn golygu 'preswylfod, trigfan'; mae'r ail elfen yn yr enw, menegh, yn cyfateb i mynach(od) yn Gymraeg: felly 'Trigfan y mynachod' yw ystyr yr enw.
Cychwynwyd tri wrthryfel Cernywaidd ym Modmin. Yn 1497, arweiniodd Michael An Gof a Thomas Flamank fyddin o Gernywiaid i Blackheath yn Llundain lle cawsant eu trechu gan fyddin y brenin. Yn Awst yn yr un flwyddn, 1497, ceisiodd Perkin Warbeck ddadorseddu Harri VII o Loegr. Yn 1549, cychwynwyd "Gwrthryfel y Llyfr Gweddi" yno gan Gernywiaid Catholig a wrthwynebai fwriad y brenin Protestant Edward VI o Loegr i orfodi llyfr gweddi newydd. Cyrhaeddasant Caerwysg yn Nyfnaint. Roedd galwad am gael cyfieithiad Cernyweg o'r llyfr gweddi hefyd. Lladdwyd tua 4,000 yn y gwrthryfel hwnnw.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Maga Cornish Place Names; adalwyd 13 Awst 2017
- ↑ City Population; adalwyd 7 Mai 2019