Boris Tadić
| Boris Tadić Борис Тадић | |
| |
3ydd Arlywydd Serbia
| |
| Cyfnod yn y swydd 11 Gorffennaf 1994 – 5 Ebrill 2012 | |
| Rhagflaenydd | Milan Milutinović |
|---|---|
| Olynydd | Slavica Đukić Dejanović (dros dro) |
| Geni | 15 Ionawr 1958 Sarajevo, Iwgoslafia |
| Plaid wleidyddol | Plaid Ddemocrataidd |
| Priod | Tatjana Tadić |
Arlywydd Gweriniaeth Serbia o 11 Gorffennaf 2004 hyd 5 Ebrill 2012 oedd Boris Tadić (Serbeg: Борис Тадић) (ganwyd 15 Ionawr, 1958 yn Sarajevo, Bosnia a Hertsegofina). Seicolegydd ydyw o ran ei addysg, ond fel arweinydd y Blaid Ddemocrataidd ac Arlywydd y caiff ei adnabod gan fwyaf.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Ar y 27 Mehefin, 2004, etholwyd Tadić yn Arlywydd am gyfnod o bum mlynedd a thyngodd ei lw ar 11 Gorffennaf, 2004. Fe'i ailetholwyd am cyfnod pellach o 5 mlynedd ar 3 Chwefror, 2008 gan ddechrau ar Chwefror 15. Cyn ei waith fel Arlywydd bu'n Weinidog Telegyfathrebu Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia ac yn Weinidog Amddiffyn o Serbia a Montenegro.
Cafodd ei weld gan rai fel arweinydd oedd "yn driw i'r feddylfryd Gorllewinol" ac yn medru cydweithio'n gytbwys gyda'r Unol Daleithiau a Rwsia. Trosglwyddwyd yr arweinyddiaeth, dros dro, i Đukić-Dejanović.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]
| |||||||
