Border Country
Gwedd
| Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig |
|---|---|
| Golygydd | Dai Smith |
| Awdur | Raymond Williams |
| Cyhoeddwr | Parthian Books |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1960 |
| Argaeledd | mewn print. |
| ISBN | 9781909844230 |
| Genre | Nofel Saesneg |
| Cyfres | Library of Wales |
| Olynwyd gan | Second Generation |
| Dynodwyr | |
Nofel 1960 gan Raymond Williams yw Border Country.
Lleolir yn Ne Cymru gwledig, yn agos i'r ffin â Lloegr. Pan gaiff y gŵr rheilffordd Harry Price strôc sydyn daw ei fab Matthew, sy'n ddarlithydd yn Llundain, 'nôl i Glynmawr ar y gororau. Wrth i Matthew a Harry ymgodymu â'u hatgofion o newidiadau cymdeithasol a phersonol, meithrinnir cwlwm o gariad agos rhwng y tad a'r mab.[1] Mae ôl-fflachiau aml i'r 1920au a'r 1930au, gan gynnwys y Streic Gyffredinol yn 1926. Trwy ffuglen, mae gan y nofel nifer o bwyntiau sy'n gyffredin â cefndir Raymond Williams ei hun.
Ail-gyhoeddwyd y nofel ym mis Rhagfyr 2005 fel rhan o grŵp o deitlau yng nghyfres Library of Wales, ar ôl bod allan o argraffiad am nifer o flynyddoedd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 28 Mehefin, 2013
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Williams, Raymond (1960). Border Country. Parthian Books. ISBN 978-1-902638-81-2