Boosey & Hawkes
Gwedd
| Enghraifft o: | music publisher |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1930 |
| Genre | cerddoriaeth-gelf |
| Pencadlys | Llundain |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | http://www.boosey.com/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/09nvvn |
| Quora | Boosey-hawkes |
Cyhoeddwr mawr o gerddoriaeth glasurol gyda'i bencadlys yn Llundain yw Boosey & Hawkes. Fe'i sefydlwyd ym 1930 trwy uno dau gwmni cerdd, Boosey & Company a Hawkes & Son. Mae'r cwmni'n berchen ar yr hawlfraint i lawer o gerddoriaeth bwysig o'r 20g, gan gynnwys gwaith gan Leonard Bernstein, Benjamin Britten, Aaron Copland, Sergei Prokofiev, Richard Strauss ac Igor Stravinsky. Tan 2003, roedd hefyd yn wneuthurwr mawr o offerynnau pres, llinynnol a chwythbren. Yn 2008 prynwyd Boosey & Hawkes gan Imagem Music Group sy'n eiddo i'r Iseldiroedd; brynwyd Imagem yn ddiweddarach gan Concord Music, sydd wedi'i leoli yn UDA.