Bonnyrigg

Oddi ar Wicipedia
Bonnyrigg
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth17,530 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMidlothian Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau55.8747°N 3.1031°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS19000546 Edit this on Wikidata
Cod OSNT308650 Edit this on Wikidata
Map

Tref yn Midlothian, yr Alban, ydy Bonnyrigg.[1] Fe'i lleolir tua 8 milltir (13 km) i'r de-ddwyrain o Gaeredin. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 15,970.[2]

Mae mapiau cynnar yn dangos fersiynau amrywiol o enw'r pentref. Mae'n ymddangos gyntaf fel pentrefan o'r enw "Bonnebrig" ar fap William Roy o tua 1750. Ar ôl 1763 fe'i gelwyd yn "Bannockrigg" neu "Bannoc Rig". Bu'n "Bonny Ridge" ym 1817, "Bonny Rigg" ym 1828, "Bonnyrig" ym 1834, a "Bonny Rig" ym 1850. Ers map yr Arolwg Ordnans o 1850–52, mae'r ffurf "Bonnyrigg" wedi bod yn safonol.

Ym 1865, cyfunodd pentrefi Bonnyrigg, Red Row, Polton Street, Hillhead a Broomieknowe i ffurfio y burgh Bonnyrigg; yna, ym 1881, cyfunodd pentref Lasswade a rhan o Broomieknowe i ffurfio y burgh Lasswade. Ym 1929 ymunodd y ddwy dref i ffurfio y burgh Bonnyrigg a Lasswade. Parhaodd y burgh hon am 45 mlynedd nes iddi gael ei diddymu ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974/75.

Tref lofaol oedd Bonnyrigg tan y 1920au; roedd ganddi hefyd ffatri garped, a gafodd ei dymchwel ym 1994.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 26 Medi 2019
  2. City Population; adalwyd 26 Medi 2019