Boneddigeiddio

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Mathproses Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Boneddigeiddio symbolaidd yn Prenzlauer Berg, Berlin.

Tuedd o fewn cymdogaethau trefol yw boneddigeiddio lle mae prisiau tai yn codi fel ag i ddadleoli teuluoedd dosbarth gweithiol neu deuluoedd incwm-isel a busnesau bychain.[1] Mae'n bwnc llosg o fewn cynllunio trefol.[2]

Mae boneddigeiddio'n digwydd pan fo pobl ddosbarth canol yn symud i mewn i ardal a fu gynt yn gymharol dlawd gan newid ei chymeriad. Mae'n daten boeth ym maes cynllunio tref gan fod y newid a welir yn un sydyn ac anaturiol, ac mae datrus y broblem yn sialens i nifer o gymdogaethau canol dinas mewn gwledydd datblygiedig.[3] Y duedd sy'n groes i foneddigeiddio yw tlodi cefn gwlad (neu drefol).[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. cymraeg.llyw.cymru; adalwyd Ebrill 2016.
  2. Chris Hamnett: The blind men and the elephant: the explanation of gentrification. Transactions of the Institute of British Geographers 1991, v. 16, p. 173–189., (French Les aveugles et l'éléphant: l'explication de la gentrification. In: Strates. Nr.9, 1996-97, Crises et mutations des territoires)
  3. Lees, Loretta, Tom Slater, and Elvin K. Wyly. Gentrification. New York: Routledge/Taylor & Francis Group, 2008. Print. Defines gentrification as "the transformation of a working-class or vacant area of the central city to a middle class residential and/or commercial use".
  4. wordfromg.blogspot.com; adalwyd Ebrill 2016.