Bois y Fro

Oddi ar Wicipedia
Bois y Fro, gyda'r cyfeilyddes

Pedwarawd lleisiol o ardal Aberystwyth yw Bois y Fro.

Maent yn canu amryw o arddulliau, yn glasurol, yn werin, hen ganiadau a barbershop hefyd caneuon ysgafn a sioeau cerdd Saesneg.

Maent yn perfformio mewn nosweithiau cymdeithasol a phriodasau ac wedi ymddangos ar raglen Heno ar S4C.

Yn 2016 perfformiwyd fersiwn arbennig ganddynt a fideo o'r gân "Can't take my Eyes off You" gan Frankie Valli, arwyddgan cefnogwyr tîm pêl-droed Cymru ar gyfer cwpan Euro2016 lle roedd Cymru yn cystadlu.

Yn Rhagfyr 2016 ymddangosodd Bois y Fro ar raglen Heno. Canwyd y garol "Daeth Nadolig".[1]

Yn 2017 rhyddhawyd CD ganddynt o'r enw Bois y Fro ar label Recordiau Sain. Ceir rhestr o ganeuon Bois y Fro sy'n cynnwys clipiau 30 eiliad o'r caneuon oddi ar y CD .

Aelodau Bois y Fro[golygu | golygu cod]

Gan rifo o'r chwith i'r dde yn y ffotograff, gydag 1 ar y chwith pellaf:

  • Efan Miles Williams - tenor (2)
  • Gregory Vearey Roberts - tenor (1)
  • Siôn England - baritôn (4)
  • Barry Powell - bâs (5)
  • Manon Fflur Jones(3)

Disgograffi[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]