"Ble'r ei di, ble'r ei di yr hen dderyn bach?"
"I nythu fry ar y goeden."
"Pa mor uchel yw y pren?"
"Wel dacw fo uwchben."
"O mi syrthi, yr hen dderyn bach!"
"Ble'r ei di, ble'r ei di yr hen dderyn bach?"
"I rywle i dorri fy nghalon."
"Pam yr ei di ffwrdd yn syth?"
"Plant drwg fu'n torri'r nyth."
"O drueni, yr hen dderyn bach!"