Benyweiddio tlodi

Oddi ar Wicipedia
Benyweiddio tlodi
Enghraifft o'r canlynolffenomen Edit this on Wikidata
Cysylltir gydatlodi Edit this on Wikidata

Mae benyweiddio tlodi yn cyfeirio at yr anghydraddoldeb cynyddol mewn safonau byw rhwng dynion a merched oherwydd y bwlch cynyddol rhwng y rhywiau mewn tlodi. Mae'r ffenomen hon yn cysylltu'n bennaf â sut mae menywod a phlant yn cael eu cynrychioli mewn modd anghymesur o fewn y gymuned statws economaidd-gymdeithasol is o'u cymharu â dynion o fewn yr un statws economaidd-gymdeithasol.[1]

Mae'r rhesyma pam fod hyn yn digwydd yn cynnwys strwythur teulu a chartref, cyflogaeth, trais rhywiol, addysg, newid hinsawdd, ffemonomeg ac iechyd. Mae'r stereoteipiau traddodiadol o fenywod yn parhau i fod wedi'u gwreiddio'n ddwfn mewn llawer o ddiwylliannau sy'n cyfyngu ar gyfleoedd incwm a chyfraniad y ferch i'r gymuned. O’i baru ag incwm sylfaen isel, gall hyn amlygu ei hun i gylch o dlodi ac felly'n fater sy’n pontio’r cenedlaethau.

Mae entrepreneuriaeth fel arfer yn cael ei gweld fel yr ateb ac mae eiriolwyr yn honni ei fod yn arwain at greu swyddi, enillion uwch yn y trefi o'i fewn. Ond mae eraill yn anghytuno.[2]

Bathwyd y term hwn yn yr Unol Daleithiau, tua diwedd yr 20g[3] ac mae'n parhau i fod yn ffenomenom a gesisir ei ddileu.[4] Mae rhai ymchwilwyr yn disgrifio'r materion hyn fel rhai sy'n bennaf amlwg mewn rhai gwledydd yn Asia, Affrica a rhai ardaloedd yn Ewrop. Mae menywod yn y gwledydd hyn fel arfer yn cael eu hamddifadu o incwm, cyfleoedd cyflogaeth a chymorth corfforol ac emosiynol gan eu rhoi yn y perygl mwyaf o dlodi. Mae'r ffenomen hon hefyd yn amrywio rhwng grwpiau crefyddol, yn dibynnu ar y ffocws a roddir ar rolau rhywedd a pha mor agos y dilynir eu testunau crefyddol priodol.

Mae benyweiddio tlodi yn cael ei fesur yn bennaf gan ddefnyddio tri mynegai rhyngwladol. Y mynegeion hyn yw'r Mynegai Datblygiadol sy'n Gysylltiedig â Rhywedd, y Mesur Grymuso Rhyw y Person a'r Mynegai Tlodi Dynol. Mae'r mynegeion hyn yn canolbwyntio ar faterion heblaw materion ariannol e.e. anghydraddoldebau rhyw a safon byw ac yn amlygu'r gwahaniaeth rhwng tlodi dynol a thlodi incwm.

Achosion[golygu | golygu cod]

Er mai incwm isel yw'r prif achos, mae llawer o agweddau sy'n gysylltiedig i'r broblem hon. Mae mamau unigol fel arfer yn wynebu'r risg uchaf o dlodi eithafol oherwydd bod eu hincwm yn annigonol i fagu plant. Mae'r ddelwedd o'r "fenyw draddodiadol" a'i rôl draddodiadol yn dal i ddylanwadu ar lawer o ddiwylliannau 'r byd sydd ohoni ac nid yw pobl yn dal i sylweddoli'n llawn bod menywod yn rhan hanfodol o'r economi. Yn ogystal, mae tlodi incwm yn lleihau posibiliadau ei phlant ar gyfer addysg a maeth cyflawn. Mae incwm isel yn ganlyniad i'r gogwydd cymdeithasol y mae menywod yn ei wynebu wrth geisio cael cyflogaeth ffurfiol, sydd yn ei dro yn dyfnhau'r cylch tlodi. Y tu hwnt i incwm, mae tlodi i'w weld mewn dimensiynau eraill megis tlodi amser  ac amddifadedd o ran gallu.[5] Mae tlodi yn aml-ddimensiwn, ac felly mae ffactorau economaidd, demograffig a chymdeithasol-ddiwylliannol hefyd yn gorgyffwrdd ac yn cyfrannu at ei greu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Christensen, MacKenzie A. (2019), Leal Filho, Walter; Azul, Anabela Marisa; Brandli, Luciana et al., eds., "Feminization of Poverty: Causes and Implications" (yn en), Gender Equality, Encyclopedia of the UN Sustainable Development Goals (Cham: Springer International Publishing): 1–10, doi:10.1007/978-3-319-70060-1_6-1, ISBN 978-3-319-70060-1
  2. Lee, Neil. "Entrepreneurship and the fight against poverty in US cities". Economy and Space: 1–22.
  3. "Beijing +5 - Women 2000: Gender Equality, Development and Peace for the 21st Century Twenty-third special session of the General Assembly, 5-9 June 2000". www.un.org. Cyrchwyd 2018-11-25.
  4. Goldberg, Gertrude Schaffner (2010). Poor women in rich countries: the feminization of poverty over the life course. Oxford: Oxford University Press. doi:10.1093/acprof:oso/9780195314304.001.0001. ISBN 978-0-19-531430-4.
  5. Bianchi, Suzanne M. (August 1999). "Feminization and juvenilization of poverty: trends, relative risks, causes, and consequences". Annual Review of Sociology 25 (1): 307–333. doi:10.1146/annurev.soc.25.1.307.