Ben Roberts (actor)
Ben Roberts | |
---|---|
Ganwyd | Bennett Roberts ![]() 1 Gorffennaf 1950 ![]() Bangor ![]() |
Bu farw | 7 Mehefin 2021 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu ![]() |
Actor o Gymro oedd Ben Roberts (1 Gorffennaf 1950 – 7 Mehefin 2021) a oedd fwyaf enwog am ei bortread o'r Prif Arolygydd Derek Conway yn y gyfres deledu Brydeinig ITV, The Bill.[1]
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Fe'i ganed yn Bennett Roberts, ym Mangor, Gwynedd ar 1 Gorffennaf 1950.
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae'r Prif Arolygydd Derek Conway, yn The Bill, rhwng 1988 a 2002.
Ymhlith ei ymddangosiadau teledu niferus eraill oedd rhannau yn The Professionals, Angels, The Queen's Nose, Doctors a Casualty.
Roedd hefyd wedi bod yn weithgar mewn ffilmiau. Yn 2010, ymddangosodd yn ffilm Mike Leigh, Another Year. Yn 2011, chwaraeodd Briggs yn Jane Eyre gan Cary Fukunaga. Yn 2014, chwaraeodd Jean yn A Little Chaos a gyfarwyddwyd gan Alan Rickman, ac yn 2016 ymddangosodd yn Miss Peregrine's Home for Peculiar Children, gan y cyfarwyddwr Tim Burton. Yn 2019, ymddangosodd fel William, yn y ffilm fywgraffyddol o Ddenmarc, Daniel.
Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd Roberts yn byw yn Ilkeston, Swydd Derby gyda'i wraig, yr adroddwr llyfrau sain arobryn, Helen Lloyd, cyn-gynhyrchydd teledu a chyhoeddwr rhaglenni ar gyfer Central TV.
Roedd gan Roberts un mab, Joe ac un wyres Elsie.
Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu farw Roberts ar 7 Mehefin 2021, yn 70 oed.[2]
Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]
- A Woman's Place? (1978) - Mark
- The Professionals (1980) - CI5 Man
- Angels (1980) - Graham
- Doctor Who (1984) - Trooper
- The Bretts (1987) - Milkman
- Hard Cases (1988) - Tom Gregory
- Tales of Sherwood Forest (1989) - Malcolm
- The Bill (1988-2002) - Chief Inspector Derek Conway
- The Bill: Target (1996) - Acting Supt. Conway
- Sooty Heights (2000) - Policeman
- The Queen's Nose (2001) - Sir Cedric Barkhouse
- Casualty (2005) - Mike Meller
- Fallet - Skandia (TV Movie) (2009) - Will Mesdag
- Doctors (2010) - Brian Taylor
- Doctors (2012) - Dennis Hirst
- Casualty (2016) - Isaac Sandison
Ffilm[golygu | golygu cod y dudalen]
- Another Year (2010) - Mourner
- Jane Eyre (2011) - Briggs
- A Little Chaos (2014) - Jean
- Miss Peregrine's Home for Peculiar Children (2016) - 40's First Old Man
- Daniel (2019) - William
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Ben Roberts, Derek Conway on The Bill, dies at 70". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Mehefin 2021.
- ↑ Shepherd, Dave (9 Mehefin 2021). "The Bill actor Ben Roberts, who played Chief Inspector Derek Conway, has died aged 70". Bristol Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Mehefin 2021.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Ben Roberts ar wefan Internet Movie Database