Battlefield, Swydd Amwythig
Gwedd
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Amwythig |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.7475°N 2.7184°W ![]() |
Cod OS | SJ516169 ![]() |
Cod post | SY1 ![]() |
![]() | |
Pentref ac ardal faestrefol yn nhref Amwythig yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Battlefield.[1] Mae wedi'i ranni rhwng y tri phlwyf sifil Amwythig, Astley a Pimhill yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Er bod y pentref ar un adeg yn sefyll ar wahân i'r dref, mae bellach wedi'i ymgorffori yn Amwythig.
Enillodd y pentref ei enw (sef, "Maes brwydr") oherwydd ymladdwyd Brwydr Amwythig gerllaw ym 1403. Adeiladwyd Eglwys y Santes Fair Fadlen yn y pentref er cof am y meirw.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b6/St._Mary_Magdalene%27s_Church%2C_Battlefield._-_geograph.org.uk_-_383039.jpg/220px-St._Mary_Magdalene%27s_Church%2C_Battlefield._-_geograph.org.uk_-_383039.jpg)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 17 Ebrill 2021