Barwniaeth Clwyd
Gwedd
Mae Barwn Clwyd o Abergele yn Sir Ddinbych yn deitl ym Mhendefigaeth y Deyrnas Unedig.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Crëwyd y farwniaeth ar 19 Mai, 1919 ar gyfer y gwleidydd Rhyddfrydol Syr John Herbert Roberts, barwnig cyntaf, Aelod Seneddol Gorllewin Sir Ddinbych rhwng 1882 a 1918, fe'i crëwyd yn farwnig yn 1908 cyn cael ei ddyrchafu i'r bendefigaeth
Arfbais
[golygu | golygu cod]Llew yn sefyll (rampant) ar fand (fess) arian (argent) a glas (azure) yn dal pluen estrys yn ei bawen.
Arwyddair: Tra Anadl Gobaith
Deiliaid
[golygu | golygu cod]- John Herbert Roberts, Barwn 1af Clwyd (1863-1955) barwn 1919-1955
- (John) Trevor Roberts, 2il Farwn Clwyd (1900-1987) barwn 1955-1987
- (John) Anthony Roberts, 3ydd Barwn Clwyd (1935-2006), barwn 1987-2006
- John Murray Roberts, 4ydd Barwn Clwyd (ganwyd 1971) deiliad ers 2006
Yr etifedd tybiedig yw mab y deiliad presennol yr Anrhydeddus John David Roberts (ganwyd 2006).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Complete Guide to the British Peerage & Baronetage Archifwyd 2017-02-17 yn y Peiriant Wayback adalwyd 8 Gorffennaf 2016