Barics Môn

Oddi ar Wicipedia
Barics Môn
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadChwarel Dinorwig Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Roedd Barics Mon yn gartref i weithwyr Chwarel Dinorwig o Ynys Môn yn ystod yr wythnos. Gadawsant eu cartrefi ar yr ynys yn gynnar bore Llun ac aethent adref p’nawn Sadwrn bob wythnos yn dod â fwyd i’r chwarel. Dau deras o 11 o unedau oedd yno, bob un gyda ystafell fyw â lle tân ac ystafell wely gyda lle i bedwar dyn. Roedd ffenestr yn wynebu’r heol rhwg y terasau. Defnyddiwyd y barics hyd at 1948. Mae’n bosibl gweld eu hadfeilion hyd at heddiw wrth ddilyn llwybrau Parc Gwledig Padarn.[1] Cyflogai Chwareli Llanberis ddynion o dros drigain o bentrefi bychain yn Sir Gaernarfon a Sir Fôn. Yn wir, roedd ecsodus wythnosol o'r ynys yn cario eu bwyd am yr wythnos waith, pawb efo'i waled yn llawn bwyd ar gyfer y pum niwrnod a hanner. Gweithiodd llawer yn y chwarel dan yr amodau yma am hanner canrif gan weld eu teuluoedd ond am ychydig oriau ar benwythnos. Cychwynnai gweithwyr o gyn belled a Llannerch-y-medd neu Langefni am dri o'r gloch ar fore Llun i gerdded y deg milltir neu fwy at fferi Moel y Don. Wedi croesi'r Fenai, cerddasant hyd at y Felinheli i ddal y tren chwarel o Benscoins. Yna, wedi cyrraedd y chwarel dringo efo'u bwyd i'r barics, a hynny cyn dechrau gweithio. Roedd dwy ystafell ym mhob uned fyw lle trigai dau oedolyn a dau fachgen fel rheol, ac yn perthyn i'r un teulu. Byddai gan bawb ei orchwylion ei hun i gyflawni, yn amrywio o nôl coed tân, llenwi'r bwced lo, nôl dwr ffres neu nôl llaeth enwyn. Byddai un arall yn cael y gwaith o fod yn gyfrifol am ddeffro'r lleill yn y bore. Darperid dau wely dwbwl a phared o lechfaen yn eu gwahanu. Ar y llawr gwelid mat sach. Cynoesol iawn oedd y dodrefn a fyddai fel rheol wedi eu gwneud gan y dynion eu hunain yn ddigon amrwd. Golau cannwyll neu lamp baraffin a geid yn y nos. Hyd yn oed pan ddaeth trydan i Chwarel Dinorwig ym 1906, ni ddarperid cyflenwad i'r un barics.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]