Auld Robin Gray

Oddi ar Wicipedia

Teitl baled Sgoteg a ysgrifennwyd gan fardd o Albanwraig Lady Anne Lindsay ym 1772 ydy "Auld Robin Gray".

Daw'r teitl o enw ei harwr, hen ddyn da sy'n priodi â merch ifanc sydd mewn cariad efo dyn a enwir Jamie a hwylia i ffwrdd er mwyn ennill arian er mwyn i'r pâr fedru priodi. Dyweda'r ferch, Jennie, sy'n adrodd y faled, stori o orfod, oherwydd aflwyddiant ei rhieni, priodi â Robin Gray tra i'w chariad fod i ffordd. Adda Robin gefnogi hi a'i rhieni yn gyfnewid am ei llaw. Mi ddychwela Jamie rhai wythnosau wedi'r briodas, yn ymddangos fel ysbryd. Cawsant aduniad trist, cusanant, ac ymwahanant yn anfodlon. Penderfyna'r ferch wneud ei gorau i fod yn briod dda i Robin, er ei bod yn drist dros ben am golli ei chariad gwir.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]