Aston Martin DB11

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aston Martin DB11
2018 Aston Martin DB11 V8 Automatic 4.0.jpg
Brasolwg
Gwneuthurwr Aston Martin
Cynhyrchwyd 2016–presennol
Adeiladwyd yn Gaydon, Lloegr
Cynlluniwyd gan Marek Reichman
Corff a siasi
Dosbarth Grand tourer (S)
Math o gorff coupé 2-ddrws
Gosodiad Injan-ffrynt, gyriant-ôl
Pweru a gyriant
Injan 5.2 L tyrbo-deuol injan V12
Trosglwyddiad otomatig 8-cyflymder
Maint
Pellter rhwng echelau 2,808 mm (111 in)
Hyd 4,739 mm (187 in)
Lled 2,060 mm (81 in)
Uchder 1,279 mm (50 in)
Pwysau 1,770 kg (3,902 lb)
Cyd-destun
Rhagflaenydd Aston Martin DB9

Car moethus o fath coupé a grand tourer ydy'r Aston Martin DB11[1] a lansiwyd ac a gynhyrchwyd gan Aston Martin yn 2016. Daeth i olau dydd yn Sioe Moduron Geneva ym Mawrth 2016 gan ddisodli'r Aston Martin DB9.[2] Dyma'r model cyntaf yng nghynlluniau newydd Aston Martin, sef Cynllun yr 2g a'r car cyntaf iddyn nhw ei gynhyrchu ers iddynt ddod i bartneriaeth gyda Daimler AG.

Mae gan y DB11 injan 5204 cc tyrbo-dwbwl V12 newydd sbon: yr Aston Martin tyrbo-dwbwl cyntaf i rowlio o'r ffatri a'i werthu'n fasnachol.[3] Mae'r injan yn cynhyrchu 600 bhp (447 kW; 608 PS) a 516 lb·ft (700 N·m). Lleolwyd y blwch-ger otomatig 8-cyflymder ZF yng nghefn y car. Gall y DB11 gyflymu o 0 i 100 km/h (62 mph) mewn 3.9 eiliad gan gyrraedd 322 km/h (200 mph). Yn 2017, rhoddwyd injan llai - un 4.0-litr tyrbod-dwbwl wedi'i wneud gan Mercedes-AMG yn opsiwn yn y DB11.[4] Golygai pwysau ysgafnach yr injan newydd hwn (115 kg (254 pwys yn ysgafnach na'r V12) cyfanswm pwysau'r car i lawr i 1,760 kg (3,880 pwys).

Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]