Ardal 51
Ardal yn yr Unol Daleithiau yn ne Nevada yw Ardal 51. Yng nghanol yr ardal, ar lan ddeheuol Llyn Groom, ceir maes awyr filwrol mawr a chaiff y man hwn ei ystyried fel un o fannau mwyaf cyfrinachol y byd. Mae canolfan filwrol yno. Prif bwrpas y ganolfan filwrol yw i ddatblygu ac arbrofi awyrennau a systemau arfog newydd. Lleolir y ganolfan ar dir hyfforddi ac arbrofi enfawr Awyrlu'r Unol Daleithiau. Honnir ei fod yn ardal o ddirgelwch am ymweliadau gan fodau allfydol yw Ardal 51 (Saesneg: Area 51).
Yn aml ni chynhwysir yr ardal ar fapiau o'r wlad, ac arweiniodd hyn at sibrydion fod astudiaethau dirgel ar fodau allfydol yn digwydd yn yr ardal. Prin y mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn cydnabod bodolaeth y ganolfan ac mae hyn wedi arwain at sawl theori am bwrpas Ardal 51. Theori boblogaidd yw i'r lluoedd arfog gaethiwo creadur allfydol wedi digwyddiad dirgel Roswell yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif.
Defnyddir enwau eraill i gyfeirio at Ardal 51. Mae rhain yn cynnwys "Dreamland", "Paradise Ranch", "Home Base", "Watertown Strip", Llyn Groom ac yn fwyaf diweddar "Maes Awyr Homey". Mae'r ardal yn rhan o Ardal Gweithredu Milwrol Nellis, a chyfeiria peilotiaid milwrol at yr awyr nad oes caniatâd hedfan (R-4808N[8]) fel The Box.