Uwchbwer

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Arch bŵer)

Term gwleidyddol yw uwchbwer sydd yn disgrifio gwladwriaeth neu ymerodraeth a chanddi'r radd uchaf o rym milwrol.[1]

Cafodd y gair Saesneg super-power ei ddefnyddio'n gyntaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan W. T. R. Fox yn ei lyfr The Super-Powers (1944) i ddisgrifio'r Ymerodraeth Brydeinig, Unol Daleithiau America, a'r Undeb Sofietaidd.[2] Wrth i'r Ymerodraeth Brydeinig fachludo wedi'r rhyfel, ymddangosodd sefyllfa ddeubegwn fyd-eang rhwng y ddau uwchbwer UDA a'r Undeb Sofietaidd. Cafodd y byd ei rannu rhwng gwledydd cyfalafol o fewn maes dylanwad yr Americanwyr, gwledydd comiwnyddol dan ddylanwad y Sofietiaid, a gwledydd tlawd "y Trydydd Byd" (neu'r Mudiad Amhleidiol). Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd ym 1990–91, cafodd yr Unol Daleithiau ei hystyried yn unig uwchbwer y byd.

Trafodir y posibilrwydd byddai archbwerau eraill yn ymgodi yn yr 21g, yn enwedig Gweriniaeth Pobl Tsieina, yr Undeb Ewropeaidd, India, Brasil, a Ffederasiwn Rwsia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. G. R. Berridge ac A. James, A Dictionary of Diplomacy (Basingstoke: Palgrave, 2003), t. 256.
  2. Graham Evans a Jeffrey Newnham, The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain: Penguin, 1998), tt. 522–523.