Sgript Gothig

Oddi ar Wicipedia
Sgript Gothig
Mathscript style Edit this on Wikidata
Rhan oDIN 16518 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu11 g Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sgript yw sgript Gothig a ddefnyddiwyd yng ngorllewin Ewrop o tua 1150 hyd y 17g. Defnyddiwyd yn yr iaith Almaeneg hyd at yr 20g.[1] Yn nyddiau cynnar argraffu, sgript Gothig oedd y teip mwyaf cyffredin.[2]

Gelwir y teip weithiau'n 'Blackletter' neu 'Fraktur'. Ceir amrywiaethau o ddulliau ysgrifennu oddi fewn i sgript Gothig gan gynnwys arddulliau llawysgrifen. Yn ei plith oedd Kurrent ac yna Sütterlin a fabwysiadwyd rhwng 1915 a diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Bu dadlau chwyrn yn ystod y 19g yn y tiroedd Almaeneg ar ba sgript neu ffont i'w ddefnyddio wrth ysgrifennu ac argraffu - y Ddadl Antiqua-Fraktur. Antiqua oedd yr arddull 'Lladin' a fabwysiadwyd gan Ffrainc a'r rhan fwyaf o Ewrop erbyn y cyfnod hwnnw. Daeth yr ysgrifen Gothig (neu Fraktur, fel y gelwid hefyd) yn symbol o genedligrwydd ac arwahanrwydd yr iaith a'r diwylliant Almaeneg.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-03. Cyrchwyd 2012-05-13.
  2. Rockwood, Camilla (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 147.
Eginyn erthygl sydd uchod am deipograffeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.