Rhyfeloedd y Balcanau

Oddi ar Wicipedia

Dau ryfel ar ddechrau'r 20g rhwng gwledydd de-ddwyrain Ewrop, sef (Bwlgaria, Gwlad Groeg, Montenegro, Ymerodraeth yr Otomaniaid, Rwmania a Serbia) oedd Rhyfeloedd y Balcanau.

Rhyfel Cyntaf y Balcanau[golygu | golygu cod]

Yn Rhyfel Cynta'r Balcanau (19121913), ymosododd aelodau Cynghair y Balcanau (Bwlgaria, Gwlad Groeg, Montenegro a Serbia) ar Ymerodraeth yr Otomaniaid, gan yrru ei lluoedd yn ôl i gyrrion Caergystennin a dwyn rheolaeth Dwrcaidd ar y Balcanau i ben am byth.

Ail Ryfel y Balcanau[golygu | golygu cod]

Ar ôl y rhyfel cyntaf, methodd y cynghreiriaid â chytuno sut i rannu tiriogaeth yr Otomaniaid. Arweiniodd yr anghytundeb hwn at yr ail ryfel. Yn ystod Ail Ryfel y Balcanau (1913), ymosododd Bwlgaria ar ei chyn-gynghreiriaid. Daeth y Twrciaid i mewn i'r rhyfel ar ochr Serbia a Gwlad Groeg. Ymunodd Rwmania, oedd wedi cadw draw o'r rhyfel cyntaf, â nhwythau hefyd. Collodd y Bwlgariaid yr ail ryfel, ac roedden nhw'n gorfod ildio'r rhan fwyaf o'r tiroedd newydd roedden nhw wedi eu hennill yn ystod y rhyfel cyntaf. Sicrhaodd yr anghytundeb a arweiniodd at yr ail ryfel y byddai Bwlgaria a Serbia yn cymryd ochrau gwahanol yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.