Methiant yr arennau

Oddi ar Wicipedia
Methiant yr arennau
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathclefyd yr arennau, impaired renal function disease, chronic renal disease, urological symptom, clefyd Edit this on Wikidata

Mae methiant yr arennau, a elwir hefyd yn gyfnod olaf (end stage) clefyd yr arennau, yn gyflwr meddygol lle nad yw'r arennau yn gweithio mwyach.[1] Ceir dau fath o fethiant - methiant yr arennau aciwt (achosion sy'n datblygu'n gyflym) a methiant yr arennau cronig (achosion hirdymor).[2] Gall symptomau gynnwys chwyddo ynghylch y goes, teimlo'n flinedig, chwydu, colli'r awydd i fwyta, neu ddryswch. Mae modd i glefyd acíwt arwain at gymhlethdodau, er enghraifft wremia, lefelau uchel o botasiwm yn y gwaed, neu orlwytho cyfaint. Gall cymhlethdodau clefyd cronig gynnwys clefyd y galon, pwysedd gwaed uchel, neu anemia.[3][4]

Gall y canlynol achosi methiant yr arennau aciwt - pwysedd gwaed isel, rhwystr yn y llwybr wrinol, rhai meddyginiaethau, gwaeledd cyhyrol, a syndrom wremig hemolytig. Mae modd i'r canlynol achosi methiant cronig yr arennau - pwysedd gwaed uchel, syndrom neffrotig, a chlefyd yr arennau polycystig. Rhoddir diagnosis methiant aciwt fel arfer ar sail cyfuniad o ffactorau megis gostyngiad mewn cynhyrchiad wrin neu gynnydd serwm creatinin.[5] Fel rheol rhoddir diagnosis clefyd cronig ar sail gyfradd hidlo glomerwlar (GFR) o lai na 15 neu'r angen am therapi ailosod arennol.[6] Mae'r cyflwr hefyd yn gyfwerth â phennod 5 clefyd cronig yr arennau.

Mae triniaethau clefyd acíwt fel arfer yn dibynnu ar achos sylfaenol y cyflwr.[7] Gall triniaethau clefyd cronig gynnwys hemodialysis, dialysis peritoneol, neu drawsblaniad arennau. Defnyddia hemodialysis peiriant i hidlo'r gwaed y tu allan i'r corff. Mewn dialysis peritoneol, rhoddir hylif penodol i mewn i'r ceudod abdomenol a'i ddraenio, fe ailadroddir y broses hon nifer o weithiau o fewn diwrnod. Wrth drawsblannu aren rhoddir aren rhywun arall yn llawfeddygol yn sydyn a chymerir meddyginiaeth gwrthimiwnaidd er mwyn atal ymwrthiant. Argymhellir mesurau eraill yn achos clefyd cronig sef aros yn weithredol a chynnig rhai newidiadau dietegol penodol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Kidney Failure". National Institute of Diabetes and Digestive and Kidney Diseases. Cyrchwyd 11 November 2017.
  2. "What is renal failure?". Johns Hopkins Medicine (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 December 2017.
  3. Liao, Min-Tser; Sung, Chih-Chien; Hung, Kuo-Chin; Wu, Chia-Chao; Lo, Lan; Lu, Kuo-Cheng (2012). "Insulin Resistance in Patients with Chronic Kidney Disease". Journal of Biomedicine and Biotechnology 2012: 1–5. doi:10.1155/2012/691369. PMC 3420350. PMID 22919275. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3420350.
  4. "Kidney Failure". MedlinePlus (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 November 2017.
  5. Blakeley, Sara (2010). Renal Failure and Replacement Therapies (yn Saesneg). Springer Science & Business Media. t. 19. ISBN 9781846289378.
  6. Cheung, Alfred K. (2005). Primer on Kidney Diseases (yn Saesneg). Elsevier Health Sciences. t. 457. ISBN 1416023127.
  7. Clatworthy, Menna (2010). Nephrology: Clinical Cases Uncovered (yn Saesneg). John Wiley & Sons. t. 28. ISBN 9781405189903.