Ymadawiad Arthur (cerdd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
y gerdd gyfan wedi'i chwanegu |
dileu testun y gerdd - gwelwch sgwrs - cewch ei osod ar Wicitestun os ydy'r hawlfraint yn ei ganiatáu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:T. Gwynn Jones - Ymadawiad Arthur 001.png|200px|bawd|''Ymadawiad Arthur a cherddi eraill'' (Caernarfon, 1910).]] |
[[Delwedd:T. Gwynn Jones - Ymadawiad Arthur 001.png|200px|bawd|''Ymadawiad Arthur a cherddi eraill'' (Caernarfon, 1910).]] |
||
Cerdd Gymraeg enwog gan y bardd [[T. Gwynn Jones]] a enillodd y [[Cadair Eisteddfodol|Gadair]] iddo yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902]] yw '''''Ymadawiad Arthur'''''. Testun y gerdd yw'r chwedl am glwyfo'r [[Brenin Arthur]] ym [[Brwydr Camlan|mrwydr Camlan]] a'i "ymadawiad" dirgel i [[Ynys Afallon]]. |
Cerdd Gymraeg enwog gan y bardd [[T. Gwynn Jones]] a enillodd y [[Cadair Eisteddfodol|Gadair]] iddo yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902]] yw '''''Ymadawiad Arthur'''''. Testun y gerdd yw'r chwedl am glwyfo'r [[Brenin Arthur]] ym [[Brwydr Camlan|mrwydr Camlan]] a'i "ymadawiad" dirgel i [[Ynys Afallon]]. |
||
==Y Gerdd== |
|||
<poem> |
|||
''Bet y march, bet y gwythur, |
|||
''Bet y gugaun cletyfrut, |
|||
''Anoeth bid bet i arthur. |
|||
- Llyfr Du Caerfyrddin |
|||
Goruwch cymloedd groch Camlan, |
|||
Lle'r oedd deufur dur yn dân, |
|||
Daeth cri o'r adwythig rawd, |
|||
Llaes ymadrodd - "Llas Medrawd!" |
|||
Moedrodd y gri dorf Medrawd |
|||
Oni throes yn eitha'i rhawd |
|||
Rhag newydd nwy' deufwy dur |
|||
A rhyferthwy torf Arthur. |
|||
Ac ymlid o faes Camlan |
|||
Uthr fu, onid aeth o'r fan, |
|||
I'r helynt ar eu holau |
|||
Mewn nwyd erch, bawb namyn dau. |
|||
Yno, mal duw celanedd, |
|||
A'i bwys ar garn glwys ei gledd, |
|||
Y naill oedd, a'r llall ger llaw |
|||
A golwg syn, yn gwyliaw. |
|||
"Arglwydd," eb hwnnw, "erglyw, |
|||
Ymaros, di achos yw; |
|||
Ateb, beth dderyw iti, |
|||
Neud, tost nad erlynnit ti!" |
|||
Ebr yntau: "Clyw, brwnt y clwyf |
|||
Hwn; clyw Fedwyr, claf ydwyf." |
|||
"Bid briw y byd!" ebr Bedwyr, |
|||
"Arthur drech, nis gorthrech gwŷr!" |
|||
"Deg clwyf," ebr Arthur, "di, clyw, |
|||
A naddodd fy mhen heddyw, |
|||
A minnau a gymynnais, |
|||
Do, gan glew am bob dygn glais; |
|||
Eithr Angau ar ruthr engur |
|||
Weithian gwân drwy'm gwythi'n gur. |
|||
Dwg fi hwnt." |
|||
"Di gei, fy ior, |
|||
Drigo," eb Bedwyr, "ragor |
|||
Yn dy wlad, can nis deil hi |
|||
O thrydd Arthur oddi wrthi!" |
|||
Troes gemliw wawl tros Gamlan |
|||
Oni bu coch wyneb can |
|||
A marw pawb o'r Cymry pur |
|||
Yno syrthiodd dros Arthur, |
|||
Ac onid oedd holl gnawd du |
|||
Drudion Medrawd yn madru! |
|||
Drwy waed, dros dyrrau o wŷr, |
|||
Heb adwy, dug braich Bedwyr, |
|||
Uthr ei nerth, arni Arthur, |
|||
Oedd lesg gan dduloes ei gur. |
|||
Yno'r oedd lannerch rhwng iraidd lwyni |
|||
A llen der wastad o feillion drosti, |
|||
Wynned oedd a phe dôi hi, - Olwen dlos - |
|||
Ar hyd yr hirnos i grwydro arni. |
|||
Er nad pell breithell chwerwaf y Brython, |
|||
Yr oedd llawen gerdd i'w llwyni gwyrddion, |
|||
Malpai taer wae'r ddaear hon fâi'n peri |
|||
O drueni, gân adar Rhiannon! |
|||
A chyrchu'r ofer o dan y deri |
|||
A orug Bedwyr drwy'r wig heb oedi; |
|||
"Y dwfr," ebr ef, "a'th ddwg di o'th ddwys-gur," |
|||
A rhoddi Arthur i orwedd wrthi. |
|||
"Rhyw wyrth nid oes," ebr Arthur, |
|||
"Ynddi i'm codi o'm cur; |
|||
O'r drum, o bwri dremyn, |
|||
Di weli draw, is law, lyn |
|||
Gwrm, hir, a chreigiau'r marian |
|||
Yn crychu'i lif. Cyrch ei lan, |
|||
A chlud Galedfwlch lydan |
|||
Gennyd - y mau gleddau glân - |
|||
Hyd i lechwedd dal ucho |
|||
Ar draeth y llyn; ar fyrr dro, |
|||
Heb dy atal, bid iti |
|||
Fwrw y llafn i ferw y lli. |
|||
Tremia o ben y trum y bych, |
|||
Gwylia beth bynnag welych, |
|||
Cyd y bydd, ac wedi bo, |
|||
Dyred yn ol heb dario." |
|||
Dwfn fyfyr ar Fedwyr fu |
|||
Ymhlegid gweld amlygu |
|||
Dioddef ar wedd gynefin |
|||
A herio trais hacra trin. |
|||
Eithr codi'r cledd rhyfeddol |
|||
Wnaeth, ac yna aeth yn ol |
|||
Geiriau Arthur gawr wrthaw |
|||
I ael y drum uchel draw. |
|||
O'r drum rhoes Bedwyr dremyn, |
|||
A chafas faith, frychlas fryn |
|||
Tonnog, a marian tano. |
|||
Yn dres fraith ar draws y fro |
|||
'Roedd prydferth flodau'r perthi, |
|||
Unlliw ôd neu ewyn lli; |
|||
Dibrin flodau'r eithin aur |
|||
Mal haen o glych melynaur; |
|||
Mân flodau'r grug yn hugan |
|||
Ar y geillt o borffor gwan; |
|||
A gwrid yr haul ar grwydr hyd |
|||
Y bau bron bob rhyw ennyd |
|||
Yn newid lliw, troi dull hon, |
|||
A'i hen weddau'n newyddion. |
|||
Draw mal mor hyd hir ymyl y marian |
|||
Yn llinell lwyd, yr oedd min llyn llydan, |
|||
A'i gry lif ar greigiau'r lan yn codi |
|||
O hyd, a thorri fel brodwaith arian. |
|||
Eto er gwymped natur o'i gwmpas, |
|||
Hynny ni lwyddodd i'w ddal na'i luddias, |
|||
Nes i grawc anghynnes gras ei atal, |
|||
A mwyfwy'r gofal a'r myfyr gafas. |
|||
Bran ddu groch ar bren oedd grin, |
|||
Goelfawr a hir ei gylfin, |
|||
Fwriai'n oer, afar ei nwyd, |
|||
Fregliach o'r dderwen friglwyd. |
|||
Safodd Bedwyr, myfyr mud |
|||
Roes omedd ar ei symud - |
|||
Dir, gnawd i grawcian bran brud! |
|||
Eb Bedwyr: "Och! na boed rin, |
|||
Yn y grawc o'r goeden grin |
|||
Er y dywaid gair dewin - |
|||
'Glywaist ti a gant y fran, |
|||
Ai drwg ai da'r darogan, |
|||
Na fid cryf heb gleddyf glân.' |
|||
Llwybr i dranc y lle bo'r drin, |
|||
Diau na ddawr angau rin |
|||
Na breiniau glew na brenin. |
|||
Diau gwell i wlad yw gwas |
|||
Byw, na'r pennaf lyw a las - |
|||
Nid gwrdd trengedig urddas!" |
|||
Cododd Bedwyr y cadarn |
|||
Gledd gerfydd ei gelfydd garn, |
|||
A thremio'n hir a thrwm wnaeth |
|||
Ar ei gywrain ragoriaeth. |
|||
"Ba dro fyth," ebr Bedwyr, "fâi |
|||
Ddigon i'r sawl a'th ddygai |
|||
Galedfwlch rymus, glodfawr, |
|||
Heb falio a'th luchio i lawr, |
|||
Megys pedfai ddirmygwr, |
|||
Onid aet o dan y dwr! |
|||
A'n hil, Och! pa ryw farn lem |
|||
A gwall fâi'n rhan pe'th gollem |
|||
Dithau? Gan adwyth ei gur |
|||
Y dinerthwyd dawn Arthur, |
|||
Onitê, diau nad hyn |
|||
A barasai heb resyn! |
|||
Diogel mi a'th gelaf, |
|||
A gweld a ddigwyddo gaf." |
|||
Yn ol chwiliaw a chwalu grug a drain |
|||
Y graig, dro, o'i ddeutu, |
|||
Fe gafodd ef ogof ddu |
|||
A magwyr yn ei mygu. |
|||
Dychwelodd, edrychodd dro; - nid oedd ddyn, |
|||
Nid oedd anadl yno |
|||
Ond dwr a'i dwrdd yn taro |
|||
Ar y graig, a'i su drwy'r gro. |
|||
O'i unigedd, bu'n agos, yn ei ffysg, |
|||
Iddo ffoi'n ddi annos, - |
|||
Trwm ar a gelo aros |
|||
Distawrwydd, unigrwydd, nos! |
|||
Yn ol i'r agen eilwaith, draw e droes |
|||
Drwy y drysi diffaith; |
|||
Gofalu ar gelu'r gwaith, |
|||
Gwrando, tremio, troi ymaith. |
|||
A phan ddaeth at y ffynnon, |
|||
Aeth, er ei bryder, ger bron |
|||
Y Brenin, a phenlino |
|||
A rhoir y gair orug o. |
|||
Ar hynny, ebr y Brenin, |
|||
A geiriau bloesg drwy gur blin: |
|||
"Ateb, a ddarfu iti |
|||
Fwrw y llafn i ferw y lli?" |
|||
"O'r daith," eb Bedwyr, "deuthym |
|||
Yma'n ol d'orchymyn ym." |
|||
Eb Arthur: "Nol aberthu |
|||
Y glaif hen, ba goel a fu?" |
|||
"Hyd y gwn, bid wiw gennyd," |
|||
Eb ef, "ni bu goel o'r byd." |
|||
"Brau a thraws," eb Arthur, "yw |
|||
Hyn. Bedwyr - geudeb ydyw! |
|||
Celaist, awyddaist ei werth, |
|||
Galedfwlch, lafn goludferth; |
|||
Bedwyr, dychwel heb oedi, |
|||
A'r llafn bwrw dithau i'r lli!" |
|||
Heb dario i ateb, aeth Bedwyr eto, |
|||
Rhedeg i'r undaith er chwerwed gwrando |
|||
Ei deyrn yn dodi arno awgrym brad |
|||
A chas ddymuniad na cheisiodd mono. |
|||
"Diau'r gofid," eb Bedwyr, "a gafodd |
|||
Ef drwy iasau ei glwyfau a'i drysodd, |
|||
A'i bwyll yn hyn a ballodd gymaint hyd, |
|||
Er ei ddoedyd, nad ŵyr a ddywedodd. |
|||
"A minnau erddo, ac er mwyn urddas, |
|||
Ai rhaid yw arnaf ddinistrio'r deyrnas, |
|||
Colli er mwyn cymwynas, nawdd ein bro, |
|||
Fel, o fod hebddo, y'n trecho'n trachas? |
|||
"Ar fod ynghadw yr hen arf dynghedus |
|||
Y saif rhyddid ein teyrnas fawreddus; |
|||
Cwympem, pe'i collid, rhag llidus alon |
|||
A rhuthr âch estron, dan ortrech astrus." |
|||
Llyna'i fyfyr, Fedwyr, fal |
|||
Yr union groesai'r anial. |
|||
Yna rhag genau'r ogo, |
|||
Safodd ac edrychodd dro; |
|||
Eto, nid oedd yno ddyn |
|||
Yn ymyl, na swn, namyn |
|||
Twrw'r dwr, man lle torrai'r don, |
|||
Mwynder hiraethus meindon |
|||
Awel ymysg y dail mân, |
|||
Fel su hun felus anian. |
|||
"Diau, rhaid," eb Bedwyr, "hyn, |
|||
Mi wnaf y mae'n ei ofyn." |
|||
Gwyrodd i'r ogof - gerwin |
|||
Grêg wedn grawc o'r goeden grin |
|||
Eto barodd ei atal - |
|||
A fyddo ddof, hawdd ei ddal. |
|||
Eb Bedwyr: "Rhaid bod y rhin |
|||
A ddwyaid Myrddin ddewin |
|||
Yn y grawc o'r goeden grin. |
|||
"Gwae i'n tud o frud y fran, |
|||
A drwg oedd ei darogan - |
|||
'Na fid cryf heb gleddyf glân.' |
|||
"Rhag y drachas dras, pwy drig |
|||
Wetihian? Cwympodd dan ei dig |
|||
Uthr lewder Arthur Wledig! |
|||
"Di, falch lafn, Caledfwlch lym, |
|||
Draw na throed dy rin na'th rym, |
|||
O thrydd Arthur oddi wrthym!" |
|||
Ceisiodd Bedwyr bob cysur oedd ddichon |
|||
Wrth ddychwel yn brysur - |
|||
"Bid waith cad, bid waetha cur, |
|||
Mae y wyrth nad mwy Arthur!" |
|||
Yno ger bron y Brenin, |
|||
Wele ef yn plygu glin, |
|||
O barch, i gael ei arch o, |
|||
Eb Arthur, ar saib, wrtho: - |
|||
"Hir y buost a'r bywyd |
|||
Mau sydd yn byrhau o hyd; |
|||
Mynega imi'n gymwys |
|||
Ba argoel sydd, na fydd fwys." |
|||
Troes Bedwyr gan ynganu |
|||
"Un arwydd, f'arglwydd, ni fu, |
|||
Ond dwr a'i dwrdd yn taro |
|||
Ar y graig, a'i su drwy'r gro." |
|||
"Atal!" eb Arthur, "eto, |
|||
Dir, cuddio'r drwg, ddiriaid dro, |
|||
Yr wyt, ac nid gwir iti |
|||
Fwrw y llafn i ferw y lli! |
|||
Di rhed, a'th dynghedu'r wyf, |
|||
Na fethych cyn na fythwyf; |
|||
Y breiniol gledd, bwrw hwnnw |
|||
I ferw y llyn - cofia'r llw!" |
|||
Crymodd Bedwyr, ac heb ateb, eto |
|||
Croesi'r ban farian wnaeth gan fyfyrio, |
|||
Oni chyrhaeddodd y llyn; chwerw iddo |
|||
Wneuthur i'w deyrn y gwaith a roed arno; |
|||
Eithr rhag cel drothwy'r ogo y safodd, |
|||
Plygodd, penlinodd mewn pannwl yno. |
|||
Trwy'r bwlch, dwyn Caledfwlch lân |
|||
O'r gwyll a orug allan. |
|||
Ei ddyrnfol aur addurnfawr, |
|||
Cywrain oedd, ac arni wawr |
|||
O liwiau gemau lawer, |
|||
Lliw'r tân a lliw eira ter; |
|||
Lliw gwaed rhudd, lliw gwydr a haul, |
|||
Neu ser ynghyfnos araul; |
|||
Ei hir lafn dur lyfned oedd |
|||
A difreg lif y dyfroedd, |
|||
A gloewed â gwiw lewych |
|||
Rhudd yr haul ar ddisglair ddrych. |
|||
Cododd Bedwyr, ac wedyn |
|||
Dringodd a safodd yn syn |
|||
Ar ymyl creigiog rimyn |
|||
Yn y llethr uwch ben y llyn. |
|||
Ebr ef: "Drymaf, uthraf awr! |
|||
Yn iach, Galedfwlch glodfawr. |
|||
O ferthaf gleddyf Arthur, |
|||
Gloewaf deyrn y gleifiau dur, |
|||
O daw barn am hyn arnom, |
|||
Mi a'm rhi, Duw farno rhôm! |
|||
O daw gwall am dy golli, |
|||
Adfered ef o'r dwfr di!" |
|||
'Roedd ei gawraidd gyhyrrau |
|||
A'i egni ef bron gwanhau, |
|||
Ond ar un naid er hynny, |
|||
Chwyfiodd ei fraich ufudd fry, |
|||
A'r arf drosto drithro drodd |
|||
Heb aros, ac fe'i bwriodd |
|||
Onid oedd fel darn o dân |
|||
Yn y nwyfre yn hofran; |
|||
Fel modrwy trwy'r gwagle trodd |
|||
Ennyd, a syth ddisgynnodd, |
|||
Fel mellten glaer ysblennydd, |
|||
A welwo deg wawl y dydd; |
|||
Ond cyn iddo daro'r dwr, |
|||
I'w wyneb daeth rhyw gynnwr'; |
|||
Ar hyn o'r llyn cododd llaw |
|||
Gadarn, gan fedrus gydiaw |
|||
Yn ei garn, ac yna i gyd, |
|||
A deheurwydd drud wryd, |
|||
Codi'r cleddyf a'i chwyfio, |
|||
Gwaniad a thrychiad dri thro; |
|||
Yna'n ol hynny, wele, |
|||
Tan y dwfr y tynnwyd e! |
|||
Draw ar hynny aeth Bedwyr ar unwaith, |
|||
A buan y croesodd y marian maith; |
|||
Meddyliau chwim oedd eilwaith drwyddo |
|||
Efô yn gwibio, rhwng ofn o gobaith. |
|||
"A fu im, diau," eb ef, "mai dewin |
|||
Gwybodus a'i peris drwy rymus rin," |
|||
Ac aeth rhwng grug ac eithin, thrwy'r fron |
|||
Lle'r oedd y meillion, ger bron y Brenin. |
|||
"Ba ryw antur fu, Bedwyr?" ebr yntau |
|||
Yn wannach ei lais na nych ei loesau; |
|||
"Dyred, byr fyddo d'eiriau, a dywed |
|||
Im rhag fy myned gan fyrred f'oriau." |
|||
Eb Bedwyr: "Arglwydd, llyma ddigwyddodd; |
|||
Y llain a dewlais; llaw wen a'i daliodd; |
|||
Trithro yn hy fe'i chwyfiodd, heb ballu, |
|||
Ac yna'i dynnu i'r eigion danodd." |
|||
"Ha Bedwyr annwyl! heb dario ennyd, |
|||
Yno yn gynnar, bid fy nwyn gennyd," |
|||
Eb Arthur, "brys, canys cyd ag y bôm |
|||
Fal yma y buom, dadfeilia'm bywyd!" |
|||
Ysgôdd Bedwyr ei ysgwydd heb oedi; |
|||
Yn swrth o'r hirnych, rhoes Arthur arni; |
|||
"Saf," eb ef, "a dygaf di, yn fuan |
|||
Ar draws y marian, i'r fan a fynni." |
|||
Cerddodd Bedwyr heb orffwys, a'r pwysau |
|||
Yn tanio'i wyneb, tynhau'i ewynnau, |
|||
Er hyn heb i'r trymder wanhau gwydnwch |
|||
Na chaledwch ei ddi nych aelodau. |
|||
Teithiodd, cyrhaeddodd y llyn, a rhoddes |
|||
Arthur ar y fan geulan, a gweles |
|||
Yn angori long eres, - hwyliau hon |
|||
Mal y wendon dan liw y melyndes. |
|||
Rhodio ar ei hyd yr oedd |
|||
Firain ferched niferoedd; |
|||
Mor wych ei drych edrychai |
|||
Pob un â phob rhyw fun fâi |
|||
Laned ei gwedd, pan lenwynt |
|||
Byrth y gaer yn Arberth gynt. |
|||
Neu ban, bryd hedd, bâi wledd lon |
|||
I'r lluoedd yng Nghaer Lleon. |
|||
Ynghraidd y llong, ar ddull ail |
|||
I orsedd, 'roedd glwth eursail, |
|||
Ac ar ei gerfwaith cywrain |
|||
Gwrlid mwyth ysgarlad main. |
|||
Tair o addwyn forwynion |
|||
Ar sedd wrth yr orsedd hon |
|||
Eisteddai. Dlysed oeddynt! |
|||
Nid oedd gwedd Blodeuwedd gynt |
|||
O geinder ail; rhag gwyndawd |
|||
Perlog ne eu purloew gnawd, |
|||
Pylai gwawr y pali gwyn |
|||
A ymdonnai am danyn; |
|||
A lliw teg eu gwalltiau aur |
|||
Drwyddo fel cawod ruddaur. |
|||
Gyddfau a thalcennau can |
|||
Mal eira ymyl Aran; |
|||
Deufan goch pob dwyfoch deg, |
|||
Lliw gwin drwy wynlliw gwaneg. |
|||
Bu druan y rhianedd |
|||
Drwy weld gwan, dreuledig wedd |
|||
Y cadarn Wledig; codi |
|||
Wnaeth yr oll, a thua'u rhi |
|||
Daliodd y tair eu dwylaw |
|||
Yn brudd ym mudandod braw. |
|||
Ac ebr un o naddun hwy - |
|||
"I Arthur rhowch gynorthwy; |
|||
Awn ag ef o'i gynni i gyd |
|||
I sanctaidd Ynys Ienctid!" |
|||
Yna e gludodd Bedwyr y Gwledig, |
|||
Yn fedrus cariodd ef dros y cerrig; |
|||
Gwyliai'r rhianedd bonheddig, hwythau, |
|||
A'u mynwesau'n dychlamu yn ysig. |
|||
Breichiau glanach na'r sindal a'r pali |
|||
I'r gadair euraid a gaid i'w godi; |
|||
Gwynion ddwylaw fu'n gweini i'r Brenin, |
|||
A rhoddi gwin i larieiddio'i gynni. |
|||
"Dioer, o mynnwch," eb Bedwyr, "a minnau |
|||
I'm hola' hynt a ddeuaf mal yntau; |
|||
Ynghyd y buom ynghadau, ynghyd |
|||
O'r byd caffom ddiengyd ddydd angau." |
|||
Yna ar hyn, eb un o'r rhianedd: |
|||
"Bid iti dewi, ni ddaeth y diwedd; |
|||
Arthur byth ni syrth i'r bedd; tithau, dos, |
|||
Y mae'n d'aros waith cyn mynd i orwedd." |
|||
Bedwyr, yn drist a distaw, |
|||
Wylodd ac edrychodd draw. |
|||
Arthur lefarodd wrtho; |
|||
"Na bydd alarus," eb o; |
|||
"Mi weithion i hinon ha |
|||
Afallon af i wella; |
|||
Ond i fy nhud dof yn ol, |
|||
Hi ddygaf yn fuddugol |
|||
Eto, wedi delo dydd |
|||
Ei bri ymysg y broydd. |
|||
Hithau er dan glwyfau'n glaf, |
|||
Am ei hanes ym mhennaf |
|||
Dafodau byd, dyfyd beirdd, |
|||
Per hefyd y cân prifeirdd. |
|||
Pob rhyw newid, bid fal bo, |
|||
Cyn hir e dreiddir drwyddo; |
|||
A o gof ein gwaith i gyd, |
|||
A'r gwir anghofir hefyd. |
|||
Ar ein gwlad daw brad, a'i bri |
|||
Dau elyn dry'n drueni. |
|||
Ond o'r boen, yn ol daw'r byd |
|||
I weiddi am ddedwyddyd, |
|||
A daw'n ol, yn ol, o hyd |
|||
I sanctaidd Oes Ieuenctyd; |
|||
Daw ini wedyn adwedd, |
|||
A chân fy nghloch, yn fy nghledd |
|||
Gafaelaf, dygaf eilwaith |
|||
Glod yn ol i'n gwlad a'n hiaith." |
|||
Hwyliodd y bad a gadaw |
|||
Bedwyr mewn syn dremyn, draw. |
|||
Lledai'r hwyl gain mal adain ar ledwyr, |
|||
Yntau a glywodd o gant gloew awyr |
|||
Ddwsmel ar awel yr hwyr, - melusdon |
|||
Yn bwrw ei swynion ar bob rhyw synnwyr. |
|||
Llyma'r mawl rhyfeddawl fodd |
|||
O loew awyr a glywodd: - |
|||
"Dros y don mae bro dirion nad ery |
|||
Cwyn yn ei thir, ac yno ni thery |
|||
Na haint na henaint fyth mo'r rhain hynny |
|||
Ddelo i'w phuraidd awel; a phery |
|||
Pob calon yn hon yn heiny a llon - |
|||
Ynys Afallon, honno sy felly! |
|||
Yno, fro ddedwydd, mae hen freuddwydion |
|||
A fu'n esmwytho ofn oesau meithion; |
|||
Byw yno byth mae pob hen obeithion, |
|||
Yno mae cynnydd uchel amcanion; |
|||
Ni ddaw fyth, i ddeifio hon, golli ffydd, |
|||
Na thrawd cywilydd na thoriad calon. |
|||
"Yno mae tân pob awen a gano, |
|||
Grym, hyder, awch pob gwladgar a ymdrecho; |
|||
Yni a ddwg i'r neb fynn ddiwygio, |
|||
Sylfaen yw byth i'r sawl fynn obeithio; |
|||
Ni heneiddiwn tra'n noddo, - mae gwiwfoes |
|||
Ag anadl einioes y genedl yno!" |
|||
Yn y pellter fel peraidd |
|||
Anadliad, sibrydiad braidd, |
|||
Darfu'r llais; o drofâu'r llyn |
|||
Anial, lledodd niwl llwydwyn; |
|||
Yn araf cyniweiriodd |
|||
Ac yno'r llong dano dodd |
|||
A'i chelu; fel drychiolaeth |
|||
Yn y niwl diflannu wnaeth. |
|||
Bedwyr, yn drist a distaw, |
|||
At y drin aeth eto draw. |
|||
</poem> |
|||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
Fersiwn yn ôl 21:15, 30 Mawrth 2011
Cerdd Gymraeg enwog gan y bardd T. Gwynn Jones a enillodd y Gadair iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902 yw Ymadawiad Arthur. Testun y gerdd yw'r chwedl am glwyfo'r Brenin Arthur ym mrwydr Camlan a'i "ymadawiad" dirgel i Ynys Afallon.
Llyfryddiaeth
- Ymadawiad Arthur a cherddi eraill (Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, Caernarfon, 1910)