Louis Dduwiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ang:Louis the Pious |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: be:Людовік I Набожны |
||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
[[ang:Louis the Pious]] |
[[ang:Louis the Pious]] |
||
[[ar:لويس الورع]] |
[[ar:لويس الورع]] |
||
[[be:Людовік I Набожны]] |
|||
[[bg:Лудвиг Благочестиви]] |
[[bg:Лудвиг Благочестиви]] |
||
[[br:Loeiz an Deol]] |
[[br:Loeiz an Deol]] |
Fersiwn yn ôl 09:30, 10 Mawrth 2011
Roedd Louis Dduwiol (Mehefin/Awst 778 - 23 Mehefin 840) yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig a brenin Aquitania.
Louis oedd trydydd mab Siarlymaen, a bwriad gwreiddiol y tad oedd rhannu'r ymerodraeth rhyngddynt. Fodd bynnag gwrthryfelodd un mab yn erbyn ei dad, a bu'r ddau arall farw o flaen Siarlymaen, felly etifeddodd Louis yr ymerodraeth i gyd. Yn ogystal a nifer o ferched, bu ganddo bedwar mab. O'i wraig gyntaf, Ermenganda de Hesbay, cafodd dri mab, Lothair I a ddaeth yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Louis yr Almaenwr a Pipin o Aquitania. O'i ail wraig, Judith, merch Welf, cafodd fab arall, Siarl Foel.
Yn wreiddiol bwriadai Louis rannu'r ymerodraeth rhwng y tri mab hynaf, ond yn nes ymlaen dymunai ychwanegu'r pedwerydd. Gwrthryfelodd y meibion hynaf yn erbyn eu tad, a buont yn ymladd am eu cyfran o'r ymerodraeth. Bu farw Pipin o Aquitania yn 838, ac yn ddiweddarach diweddwyd y brwydro rhwng y tri arall gan Gytundeb Verdun.