Socrates: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: mrj:Сократ |
B [r2.5.2] robot yn ychwanegu: sco:Socrates |
||
Llinell 108: | Llinell 108: | ||
[[sc:Socrate]] |
[[sc:Socrate]] |
||
[[scn:Sòcrati]] |
[[scn:Sòcrati]] |
||
[[sco:Socrates]] |
|||
[[sd:سقراط]] |
[[sd:سقراط]] |
||
[[sh:Sokrat]] |
[[sh:Sokrat]] |
Fersiwn yn ôl 21:07, 1 Rhagfyr 2010
Athronydd cynnar a hynod ddylanwadol o Athen, gwlad Groeg, oedd Socrates (Groeg: Σωκράτης): ef yn ôl llawer a osododd sylfeini athroniaeth Orllewinol. Fe'i ganwyd oddeutu 470 CC, ac fe fu farw yn 399 CC yn Athen.
Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn ymchwilio'n frwd i'r syniad o ddoethineb, trwy ddadlau a rhesymu gyda chyfeillion, disgyblion ac athronyddwyr yr oes. Ym mhen amser, daethpwyd i'w adnabod fel y dyn mwyaf doeth yng Ngroeg.
Roedd gan bobl farnau tra-gwahanol am Socrates: rhai yn uchel eu parch ohonno, eraill yn ei gollfarnu. Roedd ganddo ddilynwyr brwd (megis Platon), a gelynion ffyrnig yn ogystal.
Yn hen ddyn, fe syrthiodd i warth awdurdodau gwladwriaeth Athen. Fe'i gorchmynwyd i ymatal rhag ymddiddan cyhoeddus, ac i beidio ymwneud â phendefigion ifanc; ond fe barhaodd i wneud hynny yn ôl ei arfer.
Yn ôl yr hanesion traddodiadol, pan yn 70 oed, fe'i arestiwyd gan yr awdurdodau. Fe'i cyhuddwyd o lygru moes pobl ifanc, dyfeisio duwiau newydd, ac anffyddiaeth, ac fe'i deddfrydwyd i farwolaeth. Er iddo gael cyfle i ffoi o Athen penderfynodd aros yn ei ddinas, a bu farw trwy yfed diod wenwynig o hemloc.