Cartagena, Colombia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 36: Llinell 36:
[[qu:Cartagena (Kulumbya)]]
[[qu:Cartagena (Kulumbya)]]
[[ro:Cartagena de Indias]]
[[ro:Cartagena de Indias]]
[[ru:Картахена (де Индиас)]]
[[ru:Картахена (Колумбия)]]
[[simple:Cartagena de Indias]]
[[simple:Cartagena de Indias]]
[[sv:Cartagena, Colombia]]
[[sv:Cartagena, Colombia]]

Fersiwn yn ôl 15:13, 13 Tachwedd 2010

Cartagena

Dinas yng ngogledd-orllewin Colombia yw Cartagena, enw llawn Cartagena de Indias. Hi yw prifddinas departement Bolívar. Yn 2006 roedd poblogaeth y ddinas yn 895,400, a phoblogaeth yr ardal ddinesig dros filiwn.

Mae'r ddinas yn un o borthladdoedd pwysicaf Colombia, ac yn bwysig fel cyrchfan i dwristaid hefyd. Sefydlwyd Cartagena gan y Sbaenwr Pedro de Heredia ar 1 Mehefin 1533. Ceir llawer o hen adeiladau o gyfnod ymerodraeth Sbaen yn yr hen ddinas. Dynodwyd yr adran yma o'r ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1980.