Al Jazeera: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: az:Əl Cəzirə |
B robot yn newid: ar:قناة الجزيرة |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
{{eginyn teledu}} |
{{eginyn teledu}} |
||
[[ar:قناة الجزيرة |
[[ar:قناة الجزيرة]] |
||
[[arz:قناة الجزيره]] |
[[arz:قناة الجزيره]] |
||
[[az:Əl Cəzirə]] |
[[az:Əl Cəzirə]] |
Fersiwn yn ôl 09:33, 6 Tachwedd 2010
Mae Al Jazeera (Arabeg: الجزيرة, al-jazīrah; IPA: [aldʒaˈziːra], sy'n golygu "Yr Ynys" yn Arabeg), yn rhwydwaith teledu rhyngwladol sydd a'i phencadlys yn Doha, Qatar. Yn wreiddiol, lawnsiwyd y sianel fel sianel teledu lloeren Arabeg ar gyfer newyddion a materion cyfoes Arabaidd, ond bellach mae Al Jazeera wedi ehangu i fod yn rhwydwaith gyda nifer o ganghennau gan gynnwys safle gwe a sianeli teledu arbenigol mewn amryw o ieithoedd ac mewn sawl rhan o'r byd.
Cafodd y sianel sylw'r byd yn dilyn ymosodiadau Medi'r 11eg, 2001 pan ddarlledodd ddatganiadau gan Osama bin Laden ac arweinwyr eraill al-Qaeda. Erbyn heddiw mae'n un o'r sianeli teledu newyddion rhyngwladol mwyaf cyfarwydd yn y byd.
Mae'r ymgyrchydd gwleidyddol o'r Alban George Galloway yn cyfrannu'n rheolaidd i'r sianel drwy ei raglen wythnosol.
gyfryngau sy'n berthnasol i: