James Cameron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: sr:Џејмс Камерон |
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: nn:James Cameron |
||
Llinell 57: | Llinell 57: | ||
[[nds:James Cameron]] |
[[nds:James Cameron]] |
||
[[nl:James Cameron]] |
[[nl:James Cameron]] |
||
[[nn:James Cameron]] |
|||
[[no:James Cameron]] |
[[no:James Cameron]] |
||
[[pl:James Cameron]] |
[[pl:James Cameron]] |
Fersiwn yn ôl 09:46, 17 Medi 2010
Mae James Francis Cameron (ganed 16 Awst 1954) yn gyfarwyddwr, cynhyrchydd a sgriptiwr Canadaidd-Americanaidd sydd wedi ennill Gwobr yr Academi. Ysgrifennodd a chynhyrchodd ffilmiau yn armywio o Terminator 2: Judgment Day i Titanic. O ran themâu, mae ffilmiau Cameron yn dueddol o astudio'r berthynas rhwng y ddynoliaeth a thechnoleg. Crëodd Cameron y gyfres o ffilmiau Terminator, gan weithio fel cyfarwyddwr a chyd-sgriptiwr y ffilmiau The Terminator a Terminator 2: Judgment Day. Yn ddiweddarach, ysgrifennodd a sgriptiodd y ffilm Titanic, a enillodd unarddeg o Wobrau'r Academi ac a wnaeth dros $1.8 biliwn yr Unol Daleithiau (UDA) yn fyd-eang. Ar hyn o bryd, mae'r ffilmiau a gyfarwyddwyd ganddo wedi codi tua $3biliwn (UDA), heb ystyried chwyddiant. Ar ôl cyfnod o gynhyrchu ffilmiau, trodd Cameron ei olygon at ffilmiau dogfen a datblygu'r System Gamera Uno 3-D ar y cyd. Ar hyn o bryd, mae'n bwriadu dychwelyd i gynhyrchu ffilmiau gyda'r ffilm wyddonias Avatar a fydd yn defnyddio'r dechnoleg System Gamera Uno 3-D. Disgwylir y bydd Avatar yn cael ei rhyddhau ym mis Rhagfyr 2009.
Caiff Cameron ei adnabod am ei ffilmiau sydd yn aml yn hynod flaengar, creadigol ac yn llwyddiannus o safbwynt ariannol, yn ogystal â'i dymer ffrwydrol a'i bersonoliaeth dadleugar.
|