Philip yr Apostol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
MastiBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: fa:فیلیپ |
B robot yn newid: zh:腓力 (使徒) |
||
Llinell 54: | Llinell 54: | ||
[[uk:Пилип (апостол)]] |
[[uk:Пилип (апостол)]] |
||
[[vec:Fiłipo apostoło]] |
[[vec:Fiłipo apostoło]] |
||
[[zh: |
[[zh:腓力 (使徒)]] |
Fersiwn yn ôl 04:43, 14 Medi 2010
Un o'r deuddeg Apostol oedd Sant Philip. Ceir nifer o gyfeiriadau ato yn yr Efengylau. ond ni ddylid ei gymysgu a Philip yr Efengylwr, y cyfeirir ato yn Llyfr yr Actau.
Ceir y manylion llawnaf amdano yn Efengyl Ioan, lle disgrifir Iesu yn ei alw fel un o'i ddisgyblion. Dywedir yma fod Philip yn frodor o dref Bethsaida, yr un dref a Sant Pedr ac Andreas. Dywedir iddo gyflwyno Nathanael (y credir ei fod yr un person a Bartholomeus) i'r Iesu.
Yn traddodiadol, ei ddydd gwyl yn yr Eglwys Gatholig oedd 1 Mai, ond pan sefydlodd Pab Pius XII wyl Sant Joseff y Gweithiwr yn 1955, i'w dathlu ar 1 Mai, newidiodd ddydd gwyl Sant Philip a Sant Iago i 11 Mai. Gyda newid y calendr yn 1969, newidiodd eto i 3 Mai. Yn yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, 14 Tachwedd yw'r dyddiad.
Yn ôl Clement o Alexandria, roedd Philip yn briod a chanddo blant. Ceir llyfr cynnar, Actau Philip, sy'n dweud iddo efengylu Gwlad Groeg a Syria, a chael ei groeshoelio yn ninas Hierapolis.