Urdd Oren: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: fr:Ordre d'Orange (1795) |
B robot yn ychwanegu: da:The orange order |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
[[Categori:Sefydliadau 1795]] |
[[Categori:Sefydliadau 1795]] |
||
[[da:The orange order]] |
|||
[[de:Oranier-Orden]] |
[[de:Oranier-Orden]] |
||
[[en:Orange Institution]] |
[[en:Orange Institution]] |
Fersiwn yn ôl 10:02, 27 Awst 2010
Sefydliad Protestannaidd, yn bennaf yng Ngogledd Iwerddon, yw Sefydliad Orange (Saesneg: Orange Institution), hefyd Urdd Orange. Nodweddir y sefydliad gan ei wrthwynebiad i'r Eglwys Gatholig. Rhaid i unrhyw aelod fod yn Brotestant, ac fel rheol rhaid bod o deulu Protestannaidd hefyd, er y gellir gwneud eithriadau.
Ceir gwreiddiau'r sefydliad yn rhan olaf y 18fed ganrif, a'r ymladd yn erbyn yr Amddiffynwyr, oedd yn Gatholigion. Fe'i sefydlwyd yn Loughgall Swydd Armagh yn 1795. Daw'r enw o deitl Tywysog Orange, teitl gwreiddiol Wiliam III & II, brenin Lloegr a'r Alban. Daeth ef yn arwr Protestaniaid Gogledd Iwerddon yn dilyn ei fuddugoliaeth ym Mrwydr y Boyne. Er nad oes cysylltiad uniongyrchol a'r lliw oren, daeth y lliw yma i gynrychioli unoliaethwyr Gogledd Iwerddon.
Ymladdodd llawer o aelodau'r Sefydliad ar ochr y llywodraeth yng ngwrthryfel 1798. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd ei aelodaeth wedi lleihau yn fawr, ond adfywiodd pan gododd gwrthwynebiad i annibynniaeth Iwerddon ar ran y Protestaniaid. Daeth yn elfen bwysig yng Ngogledd Iwerddon wedi rhannu'r ynys. Cynhelir gorymdeithiau blynyddol, sy'n aml yn achosi anghydfod.