Ffredrig II, brenin Prwsia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sh:Fridrik II. Veliki
Llinell 56: Llinell 56:
[[ro:Frederic al II-lea al Prusiei]]
[[ro:Frederic al II-lea al Prusiei]]
[[ru:Фридрих II (король Пруссии)]]
[[ru:Фридрих II (король Пруссии)]]
[[sh:Fridrik II. Veliki]]
[[sk:Fridrich II. Veľký]]
[[sk:Fridrich II. Veľký]]
[[sl:Friderik II. Veliki]]
[[sl:Friderik II. Veliki]]

Fersiwn yn ôl 10:20, 24 Awst 2010

Ffrederic Fawr

Brenin teyrnas Prwsia o 1740 hyd ei farwolaeth oedd Ffrederic II, a adwaenir hefyd fel Ffrederic Fawr neu ei lysenw der Alte Fritz (24 Ionawr 171217 Awst 1786).

Roedd yn aelod o deulu'r Hohenzollern, yn bedwerydd plentyn i Ffrederic Wiliam I, brenin Prwsia a'i wraig Sophia Dorothea o Hannover. Priododd Elisabeth Christine van Brunswijk-Bevern, ond ni chawsant blant, ac olynwyd ef gan ei nai, Ffrederic Wiliam II.

Roedd Ffrederic yn gadfridog disglair, ac hefyd yn wladweinydd galluog. Yn Rhyfel Olyniaeth Awstria, cipiodd diriogaeth Silesia, gan gynyddu poblogaeth ei deyrnas o tua 50%. Roedd Maria Theresia, ymerodres Awstria, yn ei gasau oherwydd hyn, a bu hyn yn un o achosion y Rhyfel Saith Mlynedd. Yn wyneb ymosodiadau Awstria a Rwsia, enillodd Ffrederic nifer o fuddugoliaethau syfrdanol, ond gan fod adnoddau Awstria a Rwsia gymaint mwy na'i eiddo ef, roedd ar fin cael ei orchfygu. Achubwyd ef pan fu farw tsarina Rwsia, Elisabeth I yn 1761. Roedd ei holynydd, Pedr III, yn edmygu Ffrederic yn fawr, a gwnaeth gytundeb heddwch ag ef. Wedi i Pedr gael ei lofruddio, olynwyd ef gan Catrin II, oedd hefyd yn gyfeillgar â Ffrederic.

Roedd Ffrederic yn hoff iawn o gerddoriaeth, ac nid yn unig yn noddi cyfansoddwyr ond yn cyfansoddi ei hun.