Minerva: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B trwsio dolen |
B Yn gosod File:Minerva_from_Bath.jpg yn lle Minerwa_from_Bath.jpg (gan DieBuche achos: Spelling. Per request.--Gaeser (<span class="signature-talk">talk</span>) 04:25, |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd: |
[[Delwedd:Minerva_from_Bath.jpg|230px|bawd|Pen efydd Minerva, o faddondai Rhufeinig [[Caerfaddon]].]] |
||
[[Duwies]] [[Rhufain hynafol|Rufeinig]] a gysylltir â gwybodaeth, y deall a'r celfyddydau yn gyffredinol yw '''Minerva'''. Mae hi'n dduwies deallusrwydd, synfyfyrdod a dyfeisgarwch, Brenhines y Celfyddydau i gyd ond yn enwedig y grefft o wau gan ferched. Yn ogystal, roedd hi'n nawdd-dduwies lliwyr, cryddion (cobleriaid), seiri pren, cerddorion, cerflunwyr, actorion, beirdd, athrawon a disgyblion ysgol (''minerval'' oedd enw'r Rhufeiniaid am y ffïoedd ysgol). |

Fersiwn yn ôl 16:46, 12 Mehefin 2010
Duwies Rufeinig a gysylltir â gwybodaeth, y deall a'r celfyddydau yn gyffredinol yw Minerva. Mae hi'n dduwies deallusrwydd, synfyfyrdod a dyfeisgarwch, Brenhines y Celfyddydau i gyd ond yn enwedig y grefft o wau gan ferched. Yn ogystal, roedd hi'n nawdd-dduwies lliwyr, cryddion (cobleriaid), seiri pren, cerddorion, cerflunwyr, actorion, beirdd, athrawon a disgyblion ysgol (minerval oedd enw'r Rhufeiniaid am y ffïoedd ysgol).
Roedd ei phrif gysegrfannau i'w cael yn ninas Rhufain ei hun, ar fryn y Capitol, lle eisteddai cerflun ysblennydd ohoni rhwng y duw Iau a'i gymar Juno. Roedd temlau hynafol eraill iddi hefyd.
Gyda threigliad amser, cysylltwyd hi â'r dduwies Roegaidd Pallas Athene, yn enwedig yn ei hagwedd fel duwies buddugoliaeth ac ysbail; dan yr agwedd honno y codwyd Pompey deml iddi i ddathlu ei fuddugoliaethau yn y Dwyrain.
Ymledodd ei chwlt i bob cwr o'r Ymerodraeth Rufeinig, yn cynnwys y Brydain Rufeinig. Yng Ngâl, uniaethir y dduwies Geltaidd Belisama â Minerva.
Ffynhonnell
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).