Belisama

Oddi ar Wicipedia

Duwies Geltaidd yw Belisama. Credir fod ei henw yn tarddu o'r un gwraidd ag enwau Beli Mawr a'r duw Celtaidd Belenus ac yn golygu "Y Ddisgleiriaf".

Ceir sawl arysgrif o dde Gâl sy'n dangos fod ei chwlt yn boblogaidd trwy'r ardal yng nghyfnod y Celtiaid a'r Rhufeiniaid. Ceir arysgrif Roeg iddi o Vaison-la-Romaine, ger dinas Orange, sy'n datgan fod Galiad o'r enw Segomaros wedi codi cysgegrfa iddi. Ceir arysgrif arall, mewn Lladin, o Saint-Lizier yn Ariège, sy'n ei huniaethu yn ôl arfer y Rhufeiniaid â'r dduwies Glasurol Minerva (duwies Eidalaidd deallusrwydd, gwybodaeth a'r celfyddydau).

Yn Ffrainc heddiw ceir sawl enw lle sy'n cadw ei henw, yn cynnwys Belesmes, Beleymas a Bellême.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Boydell Press, argraffiad newydd, 2000).