Helsinki: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: bo:ཧེལ་སིན་ཀི། |
B robot yn newid: ml:ഹെൽസിങ്കി |
||
Llinell 99: | Llinell 99: | ||
[[mhr:Хельсинки]] |
[[mhr:Хельсинки]] |
||
[[mk:Хелсинки]] |
[[mk:Хелсинки]] |
||
[[ml:ഹെൽസിങ്കി]] |
|||
[[ml:ഹെല്സിങ്കി]] |
|||
[[mr:हेलसिंकी]] |
[[mr:हेलसिंकी]] |
||
[[ms:Helsinki]] |
[[ms:Helsinki]] |
Fersiwn yn ôl 06:49, 7 Chwefror 2010
Helsinki (yn Ffinneg; ynganiad ), neu Helsingfors (yn Swedeg y Ffindir; ynganiad ) yw prifddinas Y Ffindir a'i dinas fwyaf. Mae'n borthladd pwysig ar lan ogleddol Gwlff y Ffindir, yn y Môr Baltig. Helsinki yw canolfan weinyddol a masnachol y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 564,908 (31 Ionawr, 2007). Mae ardal drefol Helsinki yn cynnwys dinasoedd Espoo, Vantaa a Kauniainen, sydd gyda'i gilydd yn ffurfio Rhanbarth y Brifddinas, gyda phologaeth o tua 998,535. Yn ogystal mae Helsinki Fwyaf yn cynnwys rhai dinasoedd ychwanegol ac mae ganddi boblogaeth o 1,293,093 (2007), sy'n golygu fod un o bob pedwar Ffinn yn byw yn ardal Helsinki Fwyaf.
Mae ganddi nifer o adeiladau mewn gwenithfaen hardd, gan gynnwys y senedd-dŷ a'r eglwys gadeiriol (18fed ganrif). Ceir nifer o adeiladau diweddar yn ogystal a ystyrir yn enghreifftiau rhagorol o bensaernïaeth yr 20fed ganrif. Ceir nifer o lynnoedd yn y dinas ac o'i chwmpas. Sefydlwyd ei phrifysgol yn 1828.
Sefydlwyd Helsinki gan y brenin Swedaidd Gustavus I Vasa yn 1550 pan oedd y wlad ym meddiant Sweden. Roedd y rhan fwyaf o'r adeiladau wedi'u gwneud o bren. Dioddefodd y ddinas dân mawr yn 1808 a ddinistriodd rannau mawr ohoni a chafodd ei hail-adeiladau mewn canlyniad. Dan reolaeth Rwsia ar y Ffindir symudwyd y brifddinas o ddinas Turku i Helsinki yn 1812. Yn yr Ail Ryfel Byd dioddefodd bomio ar raddau sylweddol. Erbyn heddiw mae'n ddinas werdd, lewyrchus.
Adeiladau a chofadeiladau
- Eglwys gadeiriol
- Palas Gwydr
- Senedd
Pobl o Helsinki
- Paavo Berglund (g. 1929), cerddor
- Esa-Pekka Salonen (g. 1958), cyfansoddwr
Dinaswedd
Dolen allanol
- (Saesneg ac ieithoedd eraill)Gwefan swyddogol y ddinas